Mae un arbenigwr ym maes clefydau anifeiliaid wedi rhybuddio heddiw y gallai’r feirws Schmallenberg fod yn ddigon i ddifetha’r diwydiant amaeth.

Yn ôl Malcolm Bennett, sy’n athro ar batholeg milfeddygol ym Mhrifysgol Lerpwl, gallai’r feirws – sy’n achosi erthyliadau mewn defaid a gwartheg, neu eni epil â nam – fod yn ddigon i chwalu’r diwydiant.

Dywedodd heddiw y gallai’r feirws “ddifetha’r diwydiant yn hawdd, yn enwedig diwydiant sydd newydd ddechrau adennill ei dir ar ôl blynyddoedd o frwydr economaidd.”

Mae’r achosion diweddaraf yn awgrymu bod ffermydd sydd wedi eu heinitio gan y feirws wedi colli rhwng 10% a 50% o’u hŵyn i’r feirws.

Profion yng Nghymru

Daw ei rybudd wrth iddi ddod i’r amlwg fod profion yn cael eu cynnal ar rhai anifeiliaid yng Nghymru.

Neithiwr fe ddatgelodd prif swyddog milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, fod profion yn cael eu cynnal ar rai anifeiliaid yn Nghymru erbyn hyn, er nad yw’r canlyniadau’n hysbys eto. Ond dywedodd ei bod yn “bur debygol” y bydd yna achosion o’r feirws yng Nghymru.

Mae 83 o ffermydd bellach wedi eu heintio â feirws Schmallenberg yn Lloegr, yn ôl ffigyrau diweddaraf yr Asiantaeth Labordai Iechyd Anifeiliaid a Milfeddygaeth. Mae’r feirws wedi cael ei ddarganfod mewn 78 o ddefaid, a phump o wartheg, mewn ffermydd ar draws de a dwyrain Lloegr.

Feirws o’r cyfandir

Daeth y feirws i’r amlwg am y tro cyntaf yn yr Iseldiroedd a’r Almaen y llynedd, gan achosi symtomau  mewn gwartheg aeddfed, gan gynnwys gostwng lefel y llaeth sy’n cael ei gynhyrchu, achosi dolur rhydd, ac erthyliadau ac anffurfiadau mewn gwartheg, defaid a geifr newyddanedig.

Y gred yw bod y feirws wedi cyrraedd Prydain ar gefn gwybed, ac wedi croesi’r môr o’r cyfandir.

Hyd yn hyn, does yr un o’r ffermydd sydd wedi eu heffeithio wedi mewnforio anifeiliaid o’r ardaloedd heintiedig yn Ewrop yn ystod 2011.

Mae rhan fwyaf yr achosion sydd wedi eu cofnodi hyd yn hyn i’w darganfod yn y siroedd dwyreiniol, yn Suffolk, Norfolk, Dwyrain Sussex a Chaint – ond mae’r clefyd wedi ei ddarganfod mor bell draw â gorllewin Cernyw.

Mae’r achosion diweddaraf wedi eu darganfod ar Ynys Wyth, yn Wiltshire, Gorllewin Berkshire a Swydd Gaerloyw, tra bod siroedd eraill gan gynnwys Essex, Gorllewin Sussex, Swydd Hertford, Surrey, Hampshire hefyd wedi eu heffeithio.

Mae disgwyl i nifer yr achosion gynyddu wrth i’r diwydiant fwrw un o adegau prysuraf y calendr amaethyddol dros yr wythnosau nesaf, gyda thymor yr ŵyna ar y trothwy.