Mae dyn wedi cael ei gyhuddo yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan a thrên ar Groesfan Pikins ger Llanbrynmair ym Mhowys.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain bod gyrrwr y fan, Daniel Bellis, 35, o Groesoswallt, Sir Amwythig, wedi ei gyhuddo o beryglu diogelwch ar y rheilffordd heb fwriad ac o yrru’n beryglus yn dilyn y gwrthdrawiad ar 16 Chwefror.
Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Y Trallwng ar 20 Fawrth.