Cafodd dyn ei ladd a dynes ei hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd bore ddoe ar yr A40 rhwng Pontsenni a Threcastell ym Mhowys.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng beic modur a char Subaru tua 11.50am ddydd Sul.

Cafodd gyrrwr y beic modur a gyrrwr y car eu cludo i’r ysbyty ond bu farw gyrrwr y beic modur o’i anafiadau yn ddiweddarach. Mae gyrrwr y car yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys.

Roedd y dyn yn dod o ardal Pontypridd ac mae’r ddynes yn dod o ardal Aberhonddu.

Mae heddlu Dyfed Powys bellach yn cynnal ymchwiliad i’r ddamwain ac mae nhw’n apelio am dystion i gysylltu â nhw ar 101.