Mae dros 50% o oedolion Cymru dros bwysau neu’n ordew, ac mae rhybudd heddiw y gallai’r ffigwr hwnnw godi i 85% mewn llai na degawd os nad yw camau brys yn cael eu cymryd.

Cymru yw’r wlad gyda’r nifer uchaf o bobol dros bwysau o holl wledydd y Deyrnas Unedig, ac mae nifer y Cymry gordew wedi mwy na dyblu yn y 25 mlynedd ddiwethaf.

Dyma’r rhybudd mewn adroddiad gan Academi Iechyd Cymru sy’n cael ei drafod mewn cynhadledd gan y Sefydliad Materion Cymreig heddiw.  Fe fydd yn edrych ar “epidemig gordewdra Cymru” ac yn awgymru polisiau y dylid eu cyflwyno i fynd i’r afael â nhw.

Costau cynyddol

Mae’r ystadegau’n dangos os mai parhau wna’r duedd bresennol, gallai 60% o ddynion a 50% o fenywod fod yn ordew ym Mhrydrain erbyn 2050.

Mae disgwyl y byddai cynnydd o’r fath yn golygu bod costau gofal iechyd uniongyrchol i ddelio â gordewdra yn cynyddu saith gwaith, gyda chostau ehangach i gymdeithas yn cyrraedd £45 biliwn y flwyddyn.

Mae gordewdra hefyd yn cynyddu’r risg o ddatblygu clefydau cronig, gan gynnwys math 2 o glefyd y siwgr, clefyd cardiofasgwlaidd, a rhai mathau o ganser.

Mae’r Gynhadledd, sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, yn gobeithio cynnig atebion ar sut mae mynd i’r afael â’r problemau hyn, a sut i daclo’r duedd o fwyta bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster, a diffyg ymarfer corff ymhlith pobol Cymru.