Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Mae Arweinydd Plaid Cymru yn dweud bod angen i Lywodraeth Cymru esbonio’n agored pam bod £80 miliwn ychwanegol wedi ei roi i gyllideb Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae Ieuan Wyn Jones yn gofyn ar ba sail y rhoddwyd yr £80 miliwn ychwanegol i Hywel Dda am y pedair blynedd nesaf, tra bod cynlluniau dadleuol i ailstrwythuro’r gwasanaeth yn dal i gael eu trafod.
Ymgynghori
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar ganol ‘cyfnod gwrando’ ar hyn o bryd, lle maen nhw’n trafod eu syniadau ar gyfer ailstrwythuro’r gwasanaeth gyda thrigolion lleol.
Mae Ieuan Wyn Jones yn gofyn sut felly fod cyllideb ychwanegol wedi cael ei bennu ar gyfer y Bwrdd am y pedair blynedd nesaf, pan nad yw cyfeiriad dyfodol y gwasanaeth wedi ei benderfynu eto.
“R’yn ni angen gwybod beth yw’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda – beth maen nhw wedi addo ei wneud er mwyn cael yr £80 miliwn,” meddai Ieuan Wyn Jones.
Mae’r arian ychwanegol sydd i fynd i Hywel Dda wedi ei rannu’n £30 miliwn ar gyfer 2011-12, £20 miliwn ar gyfer 2012-12 a 13-14, a £10 miliwn ar gyfer 2014-15.
“Yr argraff yw eu bod nhw yn mynd i orfod ail-strwythuro gwasanaethau fel amod i gael yr arian,” meddai wrth Golwg 360.
Pryder am ganoli gwasanaethau
Mae sylw Ieuan Wyn Jones yn adleisio pryderon gan ymgyrchwyr lleol fod cynlluniau eisoes ar y gweill i ganoli gwasanaethau, a’u torri o ysbytai fel Bronglais yn Aberystwyth, er bod y cynlluniau i fod ar ganol proses o ymgynhori cyhoeddus ar hyn o bryd.
“Pam mae nhw wedi gwneud hyn, gosod y gyllideb? Oherwydd eu rhaglen strategol medden nhw, ond dydan ni ddim yn gwybod beth yw’r rhaglen strategol eto,” meddai Ieuan Wyn Jones.
Ymateb y Llywodraeth
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru heddiw fod “£80 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi rhwng 2011-12 a 2012-15 er mwyn cynnal y gwasanaethau presennol tra bod gwelliannau’n cael eu datblygu a’u gweithredu.”
Mynnodd y llefarydd nad oedd y cyllid yn “ddibynnol ar unrhyw gyfuniad o wasanaethau, ond bod angen i’r Bwrdd Iechyd gynllunio ar gyfer datgblygiad diogel a chynaliadwy o’u gwasanaeth iechyd sydd hefyd yn fforddiadwy yn y tymor hir, o few eu lefelau arferol o gyllid.”
Protestio
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyflwyno cyfres o opsiynau i drigolion yr awdurdod erbyn hyn, ac mae disgwyl i’r cyfnod gwrando presennol arwain at gyflwyno cynigion terfynol y Bwrdd Iechyd ar gyfer newidiadau yn y pen draw.
Ond mae 50 o glinigwyr Ysybyty Bronglais eisoes wedi llofnodi llythyr yn mynegi diffyg hyder yn y Bwrdd Iechyd yn ddiweddar, ac mae cynlluniau ar waith i fynd i brotestio dros ddiogelu gwasanaethau’r ysbyty o flaen y Senedd yng Nghaerdydd wythnos nesaf.
Mae Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ceredigion bellach wedi cynnig argymhelliad yn galw am fwy o gydweithio rhwng Byrddau Iechyd Cymru i sicrhau fod gwasanaethau fel Bronglais yn cael eu diogelu.
“Mae angen i Fwrdd Iechyd Hywel Dda weithio i sicrhau bod Ysbyty Bronglais yn cael ei ddatblygu fel Canolfan Rhagoriaeth i Feddygaeth Gwledig, gan gynnwys gwasanaethau meddygol a llawfeddygol,” medd yr argymhelliad.
Mae’n nhw hefyd yn galw ar y Gweinidog Iechyd i “fynnu bod cydweithio llawn rhwng Byrddau Iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys i sicrhau bod hyn yn digwydd.”
‘Gwasanaeth hanfodol’
Dywedodd Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor, Ellen ap Gwynn, wrth Golwg 360 ei bod yn gobeithio y byddai’r brotest yn gyfle i dynnu sylw’r Gweinidog Iechyd at y sefyllfa yng nghanolbarth Cymru, a gwasanaeth hanfodol Bronglais yn arbennig.
“Mae gwacter anferth o ysbytai yng nghanol Cymru heblaw am Bronglais – mae pob un arall wedi eu lleoli ar draws yr A55 neu’r M4,” meddai.
“Mae angen strwythur o gydweithio o fewn byrddau iechyd Cymru i sichrau bod gwasanaethau hanfodol, fel ysbyty ar gyfer y canolbarth, yn cael eu cadw.”
Dywedodd y llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru heddiw eu bod yn “cydnabod bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn wynebu cyfres unigryw o heriau oherwydd ei fod yn gwasanaethu ardal wledig fawr, yn ogystal ag effeithiau’r prinder Prydeinig o ddoctoriaid mewn ambell faes. Mae felly angen iddyn nhw weithio gyda gweithwyr proffesiynnol iechyd lleol er mwyn datgblygu cynlluniau ar sut i fynd i’r afael a’r materion hyn.”