Llun: Gwefan G
Mae iechyd deintyddol plant Cymru ymysg y gwaethaf yn y DU, ac mae galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arweiniad i rieni ynghylch iechyd deintyddol eu plant.

Dyna sy’n cael ei argymell mewn adroddiad heddiw gan aelodau o Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n dweud bod angen rhoi negeseuon mwy cyson i rieni ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod fflworid yn cael ei roi ar ddannedd plant fel rhan o’r arfer dyddiol o frwsio’u dannedd.

Mae pydredd dannedd yn effeithio nifer fawr o blant ysgol, ac mae lefelau’r clefyd ar ei uchaf mewn ardaloedd difreintiedig.

Mae hwn yn un o 10 o argymhellion sydd wedi cael eu gwneud yn sgîl ymchwiliad y pwyllgor i iechyd y geg mewn plant, a oedd yn edrych ar ba mor effeithiol yw rhaglen Cynllun Gwên Llywodraeth Cymru o ran gwella iechyd y geg mewn plant yng Nghymru, yn arbennig y rheini mewn ardaloedd difreintiedig.

Pydredd dannedd

Cafodd y Cynllun Gwên ei lansio ar 30 Ionawr 2009, fel rhaglen genedlaethol Llywodraeth Cymru i wella iechyd y geg mewn plant.

Wrth lansio’r adroddiad heddiw dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor, fod y lefel o bydredd dannedd ymysg plant yng Nghymru yn annerbyniol o uchel.

Dywedodd: “Er bod modd ei atal, pydredd dannedd yw’r clefyd mwyaf cyffredin o hyd ymysg plant, ac mae iechyd deintyddol plant Cymru ymysg y gwaethaf yn y DU.

“Mae pydredd dannedd yn effeithio nifer sylweddol o blant ysgol, ac mae lefelau’r clefyd ar ei uchaf mewn ardaloedd difreintiedig.

“Mae’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yma yn awgrymu bod nifer dda wedi manteisio ar y Cynllun Gwên.

“Ond, mae’n edrych fel be bai’r cynllun yn methu ychydig o ran yr elfen brwsio gartref, a dyna pam mai un o’n hargymhellion yw sicrhau y caiff rhieni ragor o wybodaeth am ba mor bwysig yw iechyd y geg.”

Argymhellion

Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud argymhellion eraill  gan gynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut mae’n bwriadu gwella iechyd y geg ymysg holl blant Cymru, yn cynnwys y rhai nad ydynt yn cael eu targedu ar hyn o bryd gan y Cynllun Gwên, a pha rôl y bydd y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn ei chwarae yn hyn.

Mae’r pwyllgor hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru  ystyried y dystiolaeth o blaid ymgorffori’r Cynllun Gwên yng nghwricwlwm yr ysgolion i sicrhau ei fod yn cael ei integreiddio’n well gyda chynlluniau fel Ysgolion Iach; a gwneud newidiadau i gontract deintyddol y GIG fel bod modd integreiddio gwaith ataliol a thriniaeth yn well ar draws practisiau deintyddol.