Naz Malik
Mae Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru wedi cyhoeddi heddiw eu bod wedi diswyddo’u Prif Weithredwr, Naz Malik, a’u Cyfarwyddwr Cyllid, Saquib Zia

Mae AWEMA hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n mynd i benodi ymarferydd ansolfedd wrth i weinyddwr y cwmni gymryd rheolaeth dros fusnes ac asedau y gymdeithas.

Gwnaed y cyhoeddiad heddiw gan Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr AWEMA, Dr Rita Austin.

Dywedodd Dr Rita Austin fod y penderfyniad wedi ei gymryd yn sgil adroddiad damniol y Llywodraeth ar weithgareddau’r elusen, a gyhoeddwyd wedi misoedd o honiadau, ar 9 Chwefror eleni.

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai holl grantiau’r elusen, oedd yn gyfrifol am werth £8.3 miliwn o brosiectau, yn dod i ben.

‘Arbed enw da’r sector’

Mewn datganiad heddiw, dywedodd Dr Rita Austin fod Bwrdd AWEMA yn “cydnabod difrifoldeb y materion sydd wedi eu tynnu at sylw’r cyhoedd yn sgil Archwiliad Mewnol Llywodraeth Cymru.

“Yn amlwg fe fu methiannau difrifol yn effeithlonrwydd y llywodraethiant a’r rheolaeth ariannol o fewn AWEMA, sef yr hyn sydd wedi ysgogi Llywodraeth Cymru i weithredu, a dyna sydd wedi ysgogi Bwrdd AWEMA i weithredu, gyda’r cyflymder priodol, wythnos wedi’r adroddiad.”

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd AWEMA eu bod yn gobeithio y byddai eu “gweithredu cyflym a phendant yn cyfyngu’r niwed i enw da AWEMA yn unig, fel nad yw’r sector elusennol a gwirfoddol ehangach yng Nghymru hefyd yn dioddef.”

‘Y sylw olaf’

Dywedodd Dr Rita Austin heddiw mai’r cyhoeddiad hwn fydda “sylw cyhoeddus olaf Bwrdd AWEMA” ar y mater.

Daw’r datganiad â chyfres o ymatebion cyhoeddus gan Gadeirydd y Bwrdd i ben, datganiadau a fu’n feirniadol iawn o’r honiadau yn erbyn yr elusen hyd nes i adroddiad y Llywodraeth gael ei gyhoeddi ddydd Iau diwethaf.

Yn yr adroddiad hwnnw, dywedodd y Llywodraeth fod eu hymchwiliad wedi cael ei effeithio’n fawr gan y ffaith fod diffygion sylweddol yn systemau cofnodi ariannol yr elusen.

Roedd y Llywodraeth yn tynnu sylw at bedwar agwedd penodol oedd wedi eu rhwystro wrth geisio cynnal eu hymchwiliad.

Roedd rhain yn cynnwys y ffaith nad oedd yna gyfrifon wedi eu harchwilio ar gyfer 2010/11; nad oedd yna unrhyw gyfrifon rheoli; fod gwybodaeth ariannol allweddol ar goll, fel cysoniadau banc a balansau credydwyr; ac anallu’r corff i  ddarparu  unrhyw wybodaeth o’u meddalwedd cyfrifo ariannol.

Dywedodd yr adroddiad fod y canfyddiadau hyn yn eu harwain i’r casgliad “na ellir rhoi unrhyw sicrwydd bod yna drefniadau priodol i ddiogelu a gwneud defnydd priodol o’r cyllid a roddir i AWEMA gan Lywodraeth Cymru, WEFO a chronfa’r Loteri Fawr.”