Mae angen mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal systemau ail-gylchu Cymru rhag gweithredu’n effeithlon, yn ôl adroddiad gan y Swyddfa Archwiliadau a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r adroddiad yn datgelu fod “rhwystrau sylweddol” i ailgylchu effeithlon wedi dod i’r amlwg yn y gwrthdaro rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ynglŷn â sut i gasglu gwastraff ailgylchu.

Mae’r Ceidwadwr Cymreig, Russell George, wedi galw am well cydweithio rhwng llywodraethau lleol a Llywodraeth Cymru heddiw er mwyn taclo’r anghydweld.

“Tra bod cartrefi ar draws Cymru wedi gwneud datblygiadau sylweddol wrth gynyddu cyfradd ailgylchu, mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y rhwystrau sy’n atal cynaliadwyedd,” meddai.

“Mae angen i Weinidogion Llafur weithio’n fwy adeiladol gydag awdurdodau lleol er mwyn helpu rhannu’r ymarferion gorau a hyrwyddo arferion ailgylchu effeithlon er mwyn creu amgylchedd mwy cynaliadwy.”

Daw ei sylwadau yn sgil darganfyddiad yr adroddiad fod anghytuno rhwng y Llywodraeth a rhai cynghorau ynglŷn â’r modd gorau o gasglu gwastraff ail-gylchu.

Mae’r Llywodraeth yn dweud y dylai gwahanol fathau o wastraff gael eu gwahanu wrth gael eu taflu, a dydyn nhw ddim yn hoff o’r syniad o gymysgu gwastraff fel rhoi poteli gwydr, caniau a cherdyn yn yr un bag.

Ond mae rhai cynghorau, a rhai cwmnïau o’r sector breifat, yn anghytuno, gan ddweud fod peiriannau modern yn gallu rhannu’r gwastraff yn fecanyddol.

Mae’r adroddiad yn dweud nad yw’r Llywodraeth wedi llwyddo eto i “argyhoeddi awdurdodau lleol fod ei chynlluniau ar gyfer casglu gwastraff ailgylchu yn addas nac yn ymarferol”.