Gwefan Chwaraeon Y BBC
Fe gadarnhaodd y BBC y bydd eu gwasanaeth chwaraeon ar-lein Cymraeg yn dod i ben ond y byddan nhw’n buddsoddi rhagor yn eu gwasanaeth newyddion.
Mae’r galw am y gwasanaeth chwaraeon yn isel iawn, meddai llefarydd ar ran y Gorfforaeth sydd eisoes wedi cyhoeddi y bydd 16 o swyddi’n mynd yn y gwasanaeth ar y We yng Nghymru.
Mae’n ymddangos y bydd straeon chwaraeon mawr bellach yn rhan o’r gwasanaeth newyddion cyffredinol.
Dyma ddatganiad y BBC:
“Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y BBC toriadau o 25% i’w gwasanaethau ar-lein. Mae’r toriadau heriol yma yn golygu y bydd rhaid gwneud penderfyniadau caled, gan ganolbwyntio ar nifer llai o wasanaethau.
“O ganlyniad i’r toriadau mawr yn adrannau gwahanol o ein darpariaeth ar-lein, mi fydd buddsoddiad BBC Cymru mewn newyddiaduriaeth ar-lein yn yr iaith Gymraeg yn cynyddu dros y blynyddoedd sydd i ddod.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n glir bod galw am gynnwys chwaraeon ar-lein yn yr iaith Gymraeg yn isel iawn. O ganlyniad, rydym yn bwriadu cyfuno ein hadnoddau newyddion a chwaraeon yn yr iaith Gymraeg er mwyn darparu gwasanaeth newyddion dyddiol a fydd yn parhau i gynnwys straeon chwaraeon mawr.”