Prifysgol Bangor
Mae athro o Loegr wedi cael ei feirniadu am annog disgybl i ddewis ‘hwyl’ ym Mhrifysgol Bangor dros yr ‘astudio caled’ ym Mhrifysgol Caergrawnt heddiw.

Cyfaddefodd Jonny Griffiths, 51, ei fod wedi dweud wrth un disgybl galluog oedd am astudio mathemateg i “fwynhau bod yn 17” ac anelu am Brifysgol Bangor yn lle Caeargrawnt.

Daw’r sylwadau o erthygl a ysgrifennwyd gan yr athro mathemateg ar gyfer cylchgrawn i athrawon, lle bu’n disgrifio sut y bu iddo annog y disgybl 17 oed i ddewis bywyd braf Bangor dros astudio dwys yng Nghaergrawnt.

Yn yr erthygl, dywed yr athro fod bachgen o’r enw Michael wedi dod i’w swyddfa am 4pm un diwrnod i drafod ei raddau lefel A.

Roedd y disgybl, meddai Jonny Griffiths, wedi llwyddo i gael nifer o raddau lefel A yn ei bapurau mathemateg ond ei fod wedi gwneud “camgymeriadau twp” yn ddiweddar.

Datgelodd y bachgen wedyn ei fod yn gobeithio cael A mewn mathemateg, ond ei fod yn poeni fod ei ganlyniadau yn gwaethygu.

Cafaddefodd yr athro ei fod wedi ymateb i’r bachgen drwy ddweud, “Heblaw amdano ti, Michael, pwy sy’n poeni beth ges ti yn dy lefel-A?

“Beth sydd orau: mynd i Gaergrawnt gyda thair A a chasau’r lle, neu mynd i Fangor gyda thair C a charu’r lle?”

Dywedodd wedyn wrth y bachgen 17 oed y byddai fel “aur” i adrannau mathemateg llwyth o brifysgolion a chyflogwyr, ac y dylai “fwynhau bod yn 17.”

‘Argraff camarweiniol’

Ond mae Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg UCAC yn dweud fod neges yr athro yn rhoi “argraff camarweiniol” i  bobol o’r addysg a’r profiad sydd ar gael ym Mhrifysgol Bangor.

“Mae cydbwysedd yma rhwng y dysgu a hwyl a chymdeithasu,” medai Mair Rowlands.

“Dydi hi ddim yn deg i israddio Bangor trwy ei chymharu hi fel yna gyda Chaergrawnt,” meddai.

“Mae’n wir bod pobol yn mwynhau ym Mangor ond dydi hynny’n sicr ddim ar draul yr addysg.

“Mae rhai o’n hadrannau ni yn y Brifysgol gyda’r gorau ym Mhrydain, fel yr adran Seicoleg, yr adran Fusnes, a’r adran Gwyddorau Eigion.”