Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Mae’n amlwg fod pryder ar draws Cymru am ddyfodol ein hysbytai.

Rydym eisoes wedi gweld protestiadau ynglŷn â chau wardiau yn Ysbyty Bryn Beryl ym Mhwllheli. Neithiwr mi wnaeth bron i 500 o bobl fynychu cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth i drafod newidiadau posib i wasanaethau Ysbyty Bronglais, a heddiw gwnaeth tua 150 o bobl ddod ynghyd ar gyfer rali brotest yn Llanelli i fynegi pryder am ddyfodol Ysbyty’r Tywysog Philip yn y dre.

Dywedodd trefnwyr y rali nad oeddent yn fodlon gweld bywydau yn cael eu peryglu gan gynigion i gau adran ddamweiniau ac achosion brys yr Ysbyty.

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy’n arolygu’r gwasanaethau ysbytai sydd o dan eu rheolaeth yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â newidiadau i wasanaethau’r ysbytai.

Mewn datganiad, dywedodd y Bwrdd, “Mae’n rhaid i’n gwasanaethau gydymffurfio â safonau diogelwch ac ansawdd ac ni fydden ni’n ystyried opsiynau fyddai’n peryglu bywydau.

“Does dim un penderfyniad wedi ei wneud eto ond rydyn ni’n argyhoeddedig nad yw cadw gwasanaethau fel ag y maen nhw yn opsiwn.”

Ychwanegodd y Bwrdd y byddai cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod mis Chwefror fydd yn croesawu barn y cyhoedd.

Yr wythnos diwethaf, mi wnaeth 50 o feddygon ymgynghorol ac arbenigwyr Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, arwyddo llythyr yn dweud eu bod wedi colli hyder ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.

A Dydd Gwener, mi wnaeth y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, ymyrryd, gan ddweud ei bod hi’n disgwyl i swyddogion wrando ar feddygon a chymunedau lleol wrth gynllunio newidiadau i wasanaethau.

Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystyried tri opsiwn ond maen nhw’n dweud y gallai syniadau newydd gael eu hychwanegu i’r opsiynau hynny.

Ond ym mhob un o’r tri opsiwn sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd mi fyddai Uned Gofal Ddwys Ysbyty’r Tywysog Philip yn cael ei hisraddio i fod yn Ganolfan Gofal Brys. Byddai gwasanaethau llawn yn cael eu darparu yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin neu Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.