Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am eira a glaw rhewllyd mewn mannau o Gymru heddiw.

Mae disgwyl eira mewn mannau yn ystod yr oriau nesaf a fydd yn parhau tan yfory.

Mae gyrwyr  wedi cael eu rhybuddio i fod yn wyliadwrus wrth i law rewi ar y ffyrdd gan achosi trafferthion.

Yn Cumbria bore ma roedd mwy na 60 damwain car oherwydd y glaw rhewllyd.

Mae’n debyg  fod lorïau graeanu wedi bod yn aneffeithiol, am fod y glaw yn golchi’r graean o’r ffyrdd ac yna’r glaw yn rhewi’n syth.

Mae’r heddlu yn annog pobl i arafu, i yrru gyda gofal aruthrol, ac os yn bosib, i osgoi teithio.