Bydd Asiantaeth Amgylchedd Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Conwy heddiw am y datblygiadau diweddaraf  yn y gwaith i leihau’r risg o e-coli mewn caeau chwarae yn Nhrefriw.

Yn dilyn gorlif ym mis Medi y llynedd, cafodd profion eu cynnal ar y dŵr ar y safle a darganfod bod lefelau e-coli yn uwch na’r arfer.

Cafodd rhan o’r cae chwarae, Swing Field, ei gau i’r cyhoedd yn dilyn y profion, a chynhaliwyd profion pellach.

Roedd profion ym mis Rhagfyr yn dangos bod y lefelau o e-coli bellach yn normal ac mae’r ffensys dros dro wedi cael eu symud a’r parc ar agor yn ôl yr arfer.

Mae Asiantaeth Amgylchedd Cymru hefyd wrthi’n gwella draeniadau’r parc, ac yn adfer y safle i’w gyflwr cyn y gorlif.

Dywed  Asiantaeth Amgylchedd Cymru mai carthffosiaeth anifeiliaid oedd wrth wraidd y lefelau uchel o e-coli  ac nid carthffosiaeth dynol.

Bydd profion pellach hefyd yn cael eu cynnal yn dilyn unrhyw orlif yn y dyfodol.