Fe fydd cynlluniau i adeiladu ysgol gynradd newydd cyfrwng Cymraeg ar dir gyferbyn â Ysgol Uwchradd y Drenewydd yn cael eu hystyried gan gabinet Cyngor Sir Powys wythnos nesaf.

Fe fyddai’r ysgol newydd ar gyfer 270 o ddisgyblion yn cwrdd â’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal y Drenewydd, gyda’r posibilrwydd o ehangu os ydy’r galw yn parhau i gynyddu.

Fe fydd y cynlluniau yn cael eu hystyried gan y cabinet ddydd Mawrth, 14 Chwefror.

Dywedodd y cynghorydd Stephen Hayes: “Mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg cynradd yn ardal y Drenewydd yn cynyddu’r gyflym ac mae’r ysgol presennol, Ysgol Dafydd Llwyd, yn llawn ond mae Estyn hefyd wedi tynnu sylw at nifer o ddiffygion yn adeiladau’r ysgol.

“Fe fydd y cynlluniau arfaethedig yn helpu’r cyngor i gwrdd â’r gofynion presennol, a’r dyfodol, am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a chreu ysgol newydd i blant ifainc.”

Mae’r safle yn ddigon o faint ar gyfer yr ysgol newydd arfaethedig ac yn gadael digon o dir i gwrdd â gofynion yr ysgol uwchradd, meddai’r cynghorydd.