Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi mynnu nad oes gan  Lywodraeth Cymru “ddim byd i’w guddio” yn ystod ymchwiliad i’r elusen lleiafrifoedd ethnig, AWEMA.

Mae na ymchwiliad ar y gweill ar hyn o bryd i Awema, sy’n derbyn £8.4 miliwn o arian cyhoeddus, yn dilyn adroddiad beirniadol gan ymddiriedolwyr yr elusen.

Mae’n rhestru nifer o honiadau, gan gynnwys honiad bod y prif weithredwr Naz Malik wedi rhoi codiad cyflog iddo’i hun heb awdurdod.

Mae £3m o gyllid Awema wedi cael ei atal tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal.

‘Dim byd i’w guddio’

Heddiw, roedd Aelod Cynulliad y Dems Rhydd Peter Black wedi holi a oedd y Llywodraeth wedi cael ei argymell yn 2003  i atal cyllid yr elusen, yn dilyn adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y pryd,  Edwina Hart. Dyw’r adroddiad erioed wedi cael ei wneud yn gyhoeddus.

Ond yn ystod sesiwn holi ac ateb yn y Senedd prynhawn ma dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y byddai’r adroddiad a wnaed yn 2003 yn cael ei gyhoeddi.

“Does gennym ni ddim byd i’w guddio oddi wrth pobol Cymru,” meddai.

‘Darlun llawnach’

Dywedodd Peter Black heddiw ei fod wedi gwneud cais i’r adroddiad gael ei wneud yn gyhoeddus dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

“Fe  fydd adroddiad 2003 yn rhoi darlun llawnach i ni o beth sydd wedi bod yn digwydd tu fewn i’r elusen sy’n derbyn swm sylweddol o arian cyhoeddus,” meddai.

Yn ogystal â honiadau o anghysondebau ariannol yn yr adroddiad, roedd ymddiriedolwyr Awema wedi argymell y dylai’r prif weithredwr Naz Malik gael ei wahardd o’i waith tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Fe benderfynodd penaethiaid yr elusen i beidio â derbyn y cyngor yma, gan roi rhybudd ysgrifenedig iddo yn lle.  Mae Naz Malik wedi wrthod gwneud sylw ar y mater nes bod yr ymchwiliad wedi dod i ben.

‘Cymhellion hiliol’

Roedd cadeirydd Awema Rita Austin wedi amddiffyn y penderfyniad i beidio â gwahardd Naz Malik yr wythnos hon ac wedi awgrymu bod na gymhellion hiliol i’r feirniadaeth sydd wedi bod o’r elusen.

Fe fydd adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar Awema yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau ond does dim dyddiad wedi ei bennu hyd yma ynglyn â phryd bydd adroddiad 2003 yn gweld golau dydd.