Peter Black AC
Mae’r Aelod Cynulliad Peter Black wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r adroddiad a wnaed yn ôl yn 2003 ar anghysondebau ariannol o fewn Cymdeithas Leiafrifoedd Ethnig Cymru – AWEMA.

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi at gyhoeddi adroddiad newydd ar AWEMA, yn sgil yr honiadau diweddaraf o lygredd a nepotistiaeth, mae Peter Black yn dweud ei bod hi’n bryd gwneud yr adroddiad a gomisiynwyd yn ôl yn 2003 yn gyhoeddus.

Cafodd yr adroddiad yn ôl yn 2003, a gomisiynwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y pryd, Edwina Hart, erioed ei wneud yn gyhoeddus.

Ond heddiw mae Peter Black yn dweud bod angen edrych ar yr adroddiad hwnnw nawr, i weld a gafodd argymhellion eu gwneud bryd hynny ynglŷn ag atal cyllid i brosiectau AWEMA. Mae na awgrym bod yr adroddiad wedi argymell atal cyllid i Awema ond na chafodd yr argymhellion eu gweithredu gan weinidogion Llafur.

Cais rhyddid gwybodaeth

Heddiw, wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu bod nhw am gyhoeddi eu hadroddiad diweddaraf i weithgareddau AWEMA ddydd Iau, mae’r Democrat Rhyddfrydol Peter Black wedi gwneud cais rhyddid gwybodaeth i gael gafael ar adroddiad 2003.

“Dwi’n croesawu bwriad Llywdoraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad AWEMA 2012,” meddai Peter Black.

“Ond mae’n holl bwysig eu bod nhw’n cyhoeddi adroddiad 2003 hefyd fel ein bod ni’n gallu bod yn siwr nad oedd Llywodraeth Lafur Cymru yn cau eu llygaid i weithgareddau ‘un o’u bechgyn eu hunain’ – fel sydd wedi cael ei awgrymu.”

Dywedodd yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru fod gan “bobol Cymru yr hawl i wybod os yw eu trethi yn cael eu defnyddio yn amhriodol.

“Bydd yr adroddiad ddydd Iau yn taflu goleuni ar sefyllfa AWEMA, gobeithio, ond bydd adroddiad 2003 yn rhoi darlun llawnach i ni o beth sydd wedi bod yn digwydd tu fewn i’r elusen sy’n derbyn swm sylweddol o arian cyhoeddus.”

‘Risg’

Mae AWEMA yn gyfrifol am  brosiectau gwerth £8 miliwn ar hyn o bryd, a’r wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £3 miliwn arall wedi cael ei atal rhag mynd i goffrau AWEMA tra bod yr ymchwiliad yn mynd ymlaen.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Ygrifennydd Parhaol Gillian Morgan y dylai AWEMA gael ei ystyried yn sefydliad “risg sylweddol” yn sgil yr honiadau o dwyll ariannol – sy’n cynnwys honiadau yn erbyn un sydd wedi bod yn ganolbwynt i lawer o’r feirniadaeth ar y corff, sef y Prif Weithredwr, Naz Malik.

Mae Naz Malik eisoes wedi cyfaddef ei fod wedi defnyddio arian y Gymdeithas i dalu dyled ar ei gerdyn credyd gwerth £9,000, ond mae’n dweud ei fod yn ystyried yr arian yn daliad rhag blaen am gostau yn y dyfodol.

Mae Naz Malik hefyd yn wynebu honiadau o ddefnyddio arian y gymdeithas yn amhriodol i roi codiad cyflog i’w hun a rhoi swydd i’w ferch, Tegwen, heb y tryloywder priodol.

Mae Llywdoraeth Cymru bellach wedi cadarnhau eu bod wedi bod mewn cysylltiad gyda Heddlu De Cymru yn ystod yr ymchwiliad.