Simon Thomas
Mae Simon Thomas wedi wfftio honiadau ei fod yn torri cyfansoddiad Plaid Cymru trwy gael ei benodi  yn ddirprwy i Elin Jones yn y ras am arweinyddiaeth y blaid heddiw.

Mynnodd Simon Thomas wrth Golwg 360 y prynhawn yma nad oedd yn torri unrhyw gyfansoddiad, a’i fod yn sicr y bydd yn ymuno ag Elin Jones fel dirprwy arweinydd os yw hi’n cael ei hethol yn arweinydd.

Mae’r cyhoeddiad heddiw fod Simon Thomas yn tynnu allan o’r ras am arweinyddiaeth y blaid er mwyn sefyll gydag Elin Jones fel rhyw fath o ‘docyn dwbwl’ wedi cael ei feirniadu’n llym gan rai.

Cyfansoddiad

Mae’r feirniadaeth yn ymwneud â’r broses o ddewis dirprwy arweinydd, sydd wedi ei nodi yng nghyfansoddiad Plaid Cymru.

Yn ôl Rheolau Sefydlog grŵp y Blaid yn y Cynulliad mae’n rhaid i swyddogion grŵp y Cynulliad gael eu dewis trwy bleidlais gudd gan aelodau’r grŵp.

Mae rhai yn teimlo fod Simon Thomas wedi rhoi’r cart o flaen y ceffyl, felly, wrth ddatgan ei fod yn sefyll fel ‘dirprwy-arweinydd’ i Elin Jones.

Ond gwrthod hyn i gyd wnaeth Simon Thomas wrth siarad â Golwg 360 heddiw.

“Os fydd Elin yn ennill yr arweinyddiaeth, fe fydd hi’n fy enwebu i fel dirprwy, ac wedyn fe fydd aelodau Grŵp Plaid Cymru yn pleidleisio,” meddai.

“Ac mae mwyafrif aelodau’r grŵp yn gwbwl hapus ’da’r tocyn dwbwl yma,” ychwanegodd.

Tîm arweinyddol

Dywedodd Simon Thomas y prynhawn yma fod Elin Jones hefyd wedi cadarnhau y byddai hi’n ei benodi fel rhan o’r tîm arweinyddol petai argymhelliad yr adolygiad ar Blaid Cymru yn cael ei fabwysiadu.

Mae’r argymhelliad, o’r adroddiad a gwblhawyd ddiwedd y llynedd gan Eurfyl ap Gwilym, yn dweud y dylid creu “tîm arweinyddol llai” o blith aelodau Plaid Cymru, fyddai wedi cael ei benodi gan yr arweinydd.

Dywedodd Simon Thomas ei fod wedi cael sicrwydd gan Elin Jones y byddai’n cael ei ddewis yn aelod o’r tîm hwnnw petai hi’n llwyddo i gymryd awenau Plaid Cymru.

Cynnwrf y gystadleuaeth

Mae’r cyhoeddiad heddiw wedi creu cynnwrf newydd yn y gystadleuaeth am arweinyddiaeth Plaid Cymru – gyda’r bwcis yn gorfod altro’u ods yn rheolaidd i adlewyrchu’r diddordeb.

Dywedodd llefarydd ar ran Paddy Power wrth Golwg 360 y prynhawn ’ma fod y ras am yr arweinyddaieth wedi creu llawer o symud ymhlith y ffefrynnau.

“Pan gyhoeddwyd bod Simon Thomas ddim yn rhedeg, daeth llawer o arian i mewn dros Elin Jones,” meddai Marc Webber, o Paddy Power.

Roedd Elin Jones a’i chyd-ymgeisydd, Leanne Wood, ar ods cyfartal o 6/5 tua 1pm.

“Ond yn yr oriau diwetha ma’ lot o arian ’di dod mewn dros Leanne,” meddai.

“Mae’n farchnad fywiog iawn,” meddai Marc Webber.

Mae’r ods gan Paddy Power bellach wedi sefydlogi’r prynhawn ’ma gyda Leanne Wood yn ôl fel ffefryn ar 11/8, Elin Jones ar 13/8, a Dafydd Elis Thomas ar 9/4.