Dylai pobl ifainc sy’n gweithio helpu’r rhai sy’n ddi-waith, yn ôl yr AS Llafur David Miliband sy’n lansio ymchwiliad i ddiweithdra ymhlith pobl ifainc heddiw.

Fe fydd yr adroddiad yn argymell ffyrdd i fudiadau cyhoeddus a phreifat fynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifainc.

“Rydyn ni’n credu y gall pobol ifainc helpu ei gilydd. Fe fyddwn ni’n cyhoeddi heddiw y dylai person ifainc sydd wedi bod yn gweithio ers dros flwyddyn roi cyngor a help i berson arall sydd wedi bod yn ddi-waith ers mwy na blwyddyn oherwydd mae’r broblem yma yn argyfyngus,” meddai David Miliband.

Cafodd David Miliband ei benodi i gadeirio’r tasglu ym mis Awst. Mae e wedi bod yn clywed tystiolaeth am ddiweithdra ymysg yr ifanc gan elusennau, mentrau cymdeithasol, busnesau, academyddion ac awdurdodau lleol.

Prentisiaaethau

Yn y cyfamser mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem drwy annog busnesau i drosglwyddo sgiliau hanfodol i’r genhedlaeth nesaf.

Ar ddechrau Wythnos Prentisiaethau Cymru mae’r Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert  wedi annog cyflogwyr i gynnig gobaith am y dyfodol i brentisiaid ifanc.

Mae’n pwysleisio hefyd fod magu a chynnal sgiliau hanfodol yn holl bwysig ar gyfer sicrhau dyfodol a thyfiant busnesau yng Nghymru.

Yn ystod y flwyddyn adrodd ddiweddaraf, roedd 16,305 o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi fel prentisiaid ac roedd 20,075 pellach wedi’u cofrestru’n Brentisiaid Sylfaenol.

Fodd bynnag, mae yna bryderon nad oes digon o gyfleoedd yn cael eu cynnig gan gwmnïau i brentisiaid o ystyried nifer y bobl ifanc sy’n chwilio am gyfleoedd i roi cychwyn ar eu gyrfa.

“Prentisiaethau yn dda i fusnesau”

“Yn ôl gwaith ymchwil sydd wedi’i wneud mae prentisiaethau yn dda i fusnesau. Mae cyflogwyr sy’n defnyddio’r math yma o hyfforddiant yn dweud ei fod yn arwain at greu gweithlu sy’n fwy brwd ac yn gwella cynhyrchiant,” dywedodd Jeff Cuthbert.

Mae prentisiaethau yn cael eu cynllunio’n benodol gan yr amryw wahanol sectorau fel eu bod  yn addas at anghenion penodol busnesau yn y sectorau hynny.

“Mae prentisiaethau yn gyfle i gyflogwyr, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, droi pobl ifanc heb unrhyw sgiliau yn berfformwyr o’r radd uchaf a fydd yn gaffaeliad i’w cwmnïau ac i economi Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod.

“Byddwn ni’n parhau i gefnogi cyflogwyr sy’n chwilio am brentisiaid gan mai dyma un o’r ffyrdd pwysicaf rydym yn eu defnyddio i greu gweithlu sydd â’r sgiliau mae eu hangen i economi Cymru dyfu. Mae’r Wythnos Prentisiaethau yn gyfle gwych i gyflogwyr ddechrau meddwl am ddenu prentisiaid.”

Ar ôl cyfnod o ehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dros 200 o lwybrau gwahanol ar gael bellach ar gyfer hyfforddiant ar ffurf prentisiaethau sy’n cynnig cyfanswm o bron i 1,200 o swyddi penodol ar gyfer pobl ifanc.

Yng Nghymru, honnodd fod hyfforddiant ar ffurf prentisiaethau yn arbennig o boblogaidd mewn sectorau megis lletygarwch, peirianneg ac adeiladwaith a hefyd mewn mathau o swyddi sy’n cynnwys gweinyddiaeth busnes, rheoli, cynorthwywyr dosbarth, gwasanaethau i gwsmeriaid a Thechnoleg Gwybodaeth.