Mae elusen ASH Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd â’u hymgyrch i geisio atal   pobl rhag ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant, gam ymhellach.

Mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch heddiw i geisio codi ymwybyddiaeth pobl am beryglon mwg ail law mewn ceir.

Ond mae’r elusen wedi dweud bod angen cyflwyno deddfwriaeth ochr yn ochr â’r ymgyrch er mwyn gwarchod plant rhag effeithiau mwg ail law.

Pan gafodd y cynllun  ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2011, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y gallai Cymru fod y wlad gyntaf yn Ewrop i wahardd ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant, os nad oedd gostyngiad o fewn tair blynedd.

‘Newid agwedd’

Dywedodd prif weithredwr ASH Cymru Elen de Lacy eu bod yn cefnogi ymgyrch y Llywodraeth a’i bod yn gyfle i Gymru ddangos arweiniad. Ond dywedodd bod deddfwriaeth yn bwysig i geisio newid agwedd pobl ac mae’n pryderu na fydd yr ymgyrch ar ei ben ei hun yn ddigon i ddwyn perswad ar ysmygwyr i newid eu hagwedd.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, wedi dweud bod plant mewn perygl o nifer o afiechydon o ganlyniad i fwg ail law gan gynnwys asthma, llid yr ymennydd, a marwolaethau yn y crud.

Arolwg

Mae arolwg gan ASH Cymru ymhlith mil o oedolion yng Nghymru yn dangos mai dim ond chwarter oedd wedi gwahardd ysmygu mewn ceir. Roedd un ymhob 5 yn caniatau ysmygu yn eu cerbydau ar unryhw adeg. Ond mae pedwar o bob pump o oedolion am weld gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant.

Mae elusen canser Tenovus hefyd wedi dweud bod unrhyw ymgyrch sy’n ceisio annog pobl i stopio ysmygu yn beth da.