Y ffermwyr ifanc yn cystadlu
Mae canghennau Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cwrdd er mwyn trafod a ydyn nhw am dorri’n rhydd o Loegr.

Cafodd y cyfarfod o Gyngor CFfI Cymru ei gynnal yn Llanelwedd ddoe. Ar hyn o bryd mae tua 160 o glybiau yng Nghymru yn rhan o Ffederasiwn Cenedlaethol sy’n ymestyn ar draws Cymru a Lloegr.

Byddai’r newidiadau yn golygu bod clybiau yn talu aelodaeth i Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn unig, ond ni fydden nhw’n gallu cymryd rhan yn nigwyddiadau’r Ffederasiwn Cenedlaethol.

Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes eu cymdeithasau eu hunain ar wahân i Gymru a Lloegr.

Mae ambell aelod o gangen y ffermwyr ifanc ym Meirionydd eisoes wedi dweud nad ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael gwerth am yr arian sy’n mynd i Loegr.

‘Mater i bob sir’

Dywedodd Manon Richards, Cadeirydd clybiau ffermwyr ifanc Ceredigion mai cyfle i holi cwestiynau a chael atebion oedd y cyfarfod, ac nad oes disgwyl penderfyniad terfynol yn y dyfodol agos.

“Mae’n fater i bob sir yn unigol yn hytrach na Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru gyfan,” meddai.

“Mae’r trafodaethau yn y cyfnod cychwynnol . Roedd yn gyfle i ni holi cwestiynau a gweld beth fyddai oblygiadau’r newid.

“Does yna ddim amserlen gan Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru ac mae’n bosib y bydd ambell i glwb yn dod i benderfyniad yn gynt nag eraill.”