Joyce Watson
Mae tystiolaeth fod pobol yn cael eu masnachu yng Nghymru a’u gorfodi i fod yn weision, meddai Aelod Cynulliad sy’n ymgyrchu yn y maes.

Ac fe fydd Joyce Watson yn rhan o’r gwaith o drefnu cynhadledd ryngwladol yng Nghymru i drafod y broblem, sy’n cynnwys masnachu merched i’r diwydiant rhyw.

Roedd hi’n ymateb i ymchwiliad gan newyddiadurwyr y BBC a ddangosodd fod gangiau o deithwyr o wledydd Prydain ac Iwerddon yn mynd â dynion i wledydd eraill yn Ewrop a’u gorfodi i fod yn weision.

Fe rybuddiodd yr AC Llafur tros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru y gallai’r broblem fynd yn llawer gwaeth wrth i Lywodraeth Prydain dorri 5,000 o swyddi yn yr Asiantaeth Ffiniau o fewn y tair blynedd nesaf.

‘Gorfodi i weithio’

“Does dim yn newydd yn y ffaith fod pobol yn cael eu gorfodi i weithio,” meddai Joyce Watson wrth Golwg360. “Yr hyn sy’n newydd am yr adroddiadau yma yw bod dynion yn cael eu masnachu allan o’r Deyrnas Unedig i wledydd eraill.

“Dw i’n meddwl bod rhaid i bobol ganolbwyntio ar y ffaith fod hyn wastad yn droseddu sydd wedi ei drefnu ar raddfa fawr ac mae angen ateb sydd wedi ei drefnu hefyd.

“Mae yna straeon bod pobol yn cael eu masnachu yng Nghymru a’u gorfodi i fod yn weision,” meddai. “O raid, mae’r dystiolaeth yn answyddogol ond y cam cynta’ ydi credu, yna cydnabod ac wedyn cydweithio i wella’r broblem.”

Trefnu cynhadledd

A hithau wedi sefydlu grŵp pob-plaid i drafod masnachu yn y Cynulliad ac yn cadeirio Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, fe fydd yn helpu i drefnu cynhadledd fawr naill ai ddiwedd eleni neu ddechrau 2013.

Roedd angen i wledydd weithredu ar y cyd, meddai, gan gynnwys y llywodraethau o fewn gwledydd Prydain – roedd y troseddu’n digwydd ar draws ffiniau ac o fewn ffiniau gwladwriaethau.

O ganlyniad, fe ddywedodd y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant, yn galw cyfarfod o weinidogion holl lywodraethau’r Deyrnas Unedig i drafod y mater.