Neuadd y Ddinas Caerdydd - un o'r cynghorau sy'n cael ei feirniadu
Mae cyfres o adroddiadau gan Swyddfa’r Archwilydd yng Nghymru yn codi amheuon am wasanaethau cymdeithasol mewn sawl cyngor sir.

Er bod yr adroddiadau’n canmol llawer o waith y cynghorau’n gwella gwasanaethau, mewn chwech o’r wyth a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnos ddiwetha’, mae pryderon am ofal oedolion neu blant.

Mewn mwy nag un achos mae’r archwilwyr yn cyfeirio at ddiffyg adnoddau neu ddiffyg staffio wrth drafod gwasanaethau.

Dyma rai o’r sylwadau:

Castell Nedd Port Talbot – “pryderon tros wasanaethau cymdeithasol i blant, sydd wedi bod trwy gyfnod anodd o drawsnewid sydd wedi cael effaith wael ar berfformiad”.

Wrecsam – “dyw rhai o’r gwasanaethau i gefnogi pobol fregus ddim yn gweithio cystal ag y gallen nhw”.

Ceredigion – “mae gweithredu ar droed i fynd i’r afael â gwendidau mewn gwasanaethau cymdmdeithasol i gefnogi pobol sydd mewn angen, ond oherwydd problemau capasiti, dyw gwelliannau ddim wedi digwydd mewn rhai meysydd”.

Caerdydd – “mae gwendidau mewn rhai agweddau o wasanaethau cymdeithasol yn golygu nad yw’r Cyngor yn cwrdd yn llawn â’i nod i bobol yng Nghaerdydd fod yn saff a theimlo’n saff”.Roedd rhai gwasanaethau wedi dirywio ers adroddiad gan yr Arolygaeth Ofal a Gwasanaethau Cymdeithasol y llynedd.

Rhondda Cynon Taf – “mae perfformiad y Cyngor yn wan mewn rhai meysydd o gyfrifoldeb statudol, megis gwasanaethau i blant a phobol ifanc”.

Powys – “Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau i oedolion sy’n annhebygol o fod yn llwyddo’n gyson i gwrdd ag anghenion pobol gymwys”.

Un cyngor sy’n cael ei ganmol am lwyddo i wella gwasanaethau cymdeithasol yw Dinas Abertawe.

Mae sylwadau’r archwilwyr i raddau helaeth wedi eu seilio ar lythyrau’r Arolygaeth Ofal.