Protest Llangefni
Daeth  250 o bobl i brotestio yn erbyn cynlluniau ar gyfer melinau gwynt ar Ynys Môn heddiw.

Fe fu’r protestwyr yn ymgynull  tu allan i Swyddfa’r Cyngor Sir yn Llangefni.

Mae’n dilyn cyfarfodydd cyhoeddus ym Mhentraeth, Penmynydd a Llanddona lle bu cannoedd yn lleisio eu pryderon am gynlluniau ar gyfer rhagor o felinau gwynt.

Barn protestwr

Dywedodd un o’r protestwyr Paul Williams wrth Golwg 360 bod y protestwyr yn gwrthwynebu cynlluniau ar  gyfer melinau gwynt hyd at 100 metr o uchder.

Mae Paul Williams, sy’n byw yn Llangefni, yn honni fod Cyngor Ynys Môn yn ceisio sefydlu’r ynys fel safle ynni gwyrdd heb ystyried y gwrthwynebiad mawr yn y gymuned leol i nifer o’r cynlluniau.

“Daeth 250 o bobl i bwysleisio methiant y Cyngor i ystyried effaith y cynlluniau newydd,” meddai.

Mae’n dweud hefyd fod nifer o’r prosiectau ynni newydd yn rhy fawr i Ynys Môn.

“Mae angen i Gyngor Sir Ynys Môn feddwl yn ofalus am ei strategaeth, a sicrhau nad yw’r ynys yn troi’n fin sbwriel i brosiectau ynni anaddas.”

Mae yna bryderon y bydd y datblygiadau ynni newydd yn cael effaith andwyol ar ddiwydiant twristiaeth yr ardal.

Dywedodd Paul Williams fod Brian Owen, Arweinydd y Cyngor, wedi dod  i siarad gyda’r protestwyr.

“Dywedodd e tra’i fod e yn arweinydd, fydd y Cyngor yn gwrando ar lais y bobl.”

Cynlluniau

Roedd y protestwyr wedi penderfynu cynnal y brotest heddiw am mai dyma’r tro olaf i’r Pwyllgor Cynllunio gyfarfod cyn penderfynu ar ddogfen gynllunio newydd.

Bydd y ddogfen newydd yn cynnwys arweiniad y cyngor ynglŷn a chynlluniau ar gyfer melinau gwynt ar yr ynys.

Ar hyn o bryd mae yna dair fferm wynt ar Ynys Môn, ger Llyn Alaw, Trysglwyn a Chemaes.  Mae’r melinau gwynt presennol ger Llyn Alaw yn 31 metr o uchder.

Fodd bynnag, mae yna gynllun i godi fferm wynt fawr yn y môr ger Ynys Môn. Centrica, sy’n rhan o Nwy Prydain, sy’n gyfrifol am y cynllun yma.

Byddai’r fferm wynt naw milltir o’r arfordir, a’r gobaith yw y bydd yn gallu cyflenwi pwer i 3 miliwn o gartrefi.

Mae protestwyr hefyd yn codi pryderon am gynlluniau i osod tyrbin 71m o uchder ar fferm yn Rhoscefnhir, ger Pentraeth, a nifer o bolisïau ynni newydd arall y Cyngor.

Arweinydd y Cyngor

Dywedodd Arweinydd y Cyngor Brian Owen wrth Golwg360 ei fod yn “ymwybodol o’r pryderon sy’n bodoli, yn enwedig am y tyrbinau mawr.”

“Rydym ni mewn proses o ymgynghoriad, yn edrych ar ein polisïau ynni gwynt. Mae hwn yn dod i ben ar Chwefror 10, a rydym ni’n annog y cyhoedd i roi eu barn i’r Cyngor.”

Soniodd hefyd fod y Cyngor wedi cynnal “cyfarfod cynhyrchiol ac adeiladol” gyda’r grŵp ‘Anglesey Against Wind Farms.’

“Unwaith mae’r cyfnod ymgynghori ar ben, fe fyddan ni’n ystyried newidiadau i’r ddogfen gynllunio, ac yn sicrhau fod unrhyw ddatblygiadau o fewn rheswm.

“Mae Ynys Môn yn enwog am ei harddwch – y peth d’wetha’ da ni isio ydy boddi’r ynys efo melinau gwynt.”

Bydd yna gyfarfod cyhoeddus arall i brotestwyr heno am 7.30pm yn Neuadd Plwyf Llandegfan.