O heddiw ymlaen fe fydd hi’n anghyfreithlon i ddarparu peiriant yn gwerthu sigarets i bobol yng Nghymru – sy’n newyddion da i blant, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae elusen ASH Cymru wedi croesawu’r gwaharddiad ar beiriannau sy’n gwerthu sigarets heb arolygaeth heddiw, gan ddweud y gallai arbed oes o ddibyniaeth i bobol ifanc.

Yn ôl Prif Weithredwr ASH Cymru, Elen de Lacy, bydd y gwaharddiad yn “atal plant rhag cael gafael ar sigarets yn anghyfreithlon.”

Mae’r elusen yn dweud fod un o bob pump ysmygwr ifanc yn dod ar draws peiriannau gwerthu sigarets heb arolygaeth yn rhwydd, ac mae’r elusen yn credu y bydd gwahardd y peiriannau yn atal plant rhag dechrau ysmygu.

“Mae’n fesur iechyd cyhoeddus pwysig iawn i ofalu am genhedlaethau’r dyfodol, ac yn ran canolog o’n strategaeth ni i daclo’r niwed y mae tobaco yn achosi yng nghymunedau Cymru,” meddai.

“Rydyn ni nawr eisiau gweld y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â gwaharddiad ar ddangos tobaco tu ôl i’r cownter.”

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y peiriannau hyn yn cael eu defnyddio’n rheolaidd gan blant dan 18 yn y DU, er ei bod hi’n anghyfreithlon i unrhyw un dan 18 brynu sigarets yn y DU.

Mae rheolau yn datgan y dylai peiriannau gwerthu sigarets fod mewn man sy’n atal plant rhag mynd atyn nhw, ond dangosodd adroddiad yn 2009 fod 18% o’r peiriannau yng Nghymru mewn mannau anaddas.

Mae cynghrair o arbenigwyr wedi bod yn ymgyrchu dros y newid hwn ers tro, gan gynnwys ysgrifennydd Cymru y BMA, Dr Richard Lewis.

“Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen wrth atal gwerthu tobaco i blant.

“Mae plant sy’n ysmygu yn wynebu blynyddoedd o ddibyniaeth ar dobaco, ac yn gallu arwain at afiechydon ar y galon a marwolaeth cynnar,” meddai.

“R’yn ni’n gobeithio y byddai atal mynediad mor rhwydd i dybaco yn golygu bydd llawer llai o blant yn gallu ysmgyu, gan sicrhau eu bod yn gallu mwynhau iechyd gwell a bywyd hirach.”

Mae Lloegr eisoes wedi gwahardd peiriannau gwerthu sigarets fel hyn, ac mae Gogledd Iwerddon yn cyflwyno’r gwaharddiad heddiw, yr un pryd â Chymru.