Rhaid i Lywodraeth Cymru 'weithredu ar frys'
Mae adroddiad blynyddol cyntaf y Comisiwn Newid Hinsawdd yn rhybuddio fod rhaid gweithredu yn gynt i warchod yr amgylchedd.

Mae’r adroddiad, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn honni fod Cymru mewn safle da i allu arwain y ffordd mewn materion amgylcheddol.

Ond mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati yn syth i ffurfio strategaeth effeithlon, yn ol yr adroddiad.

Gobaith i’r dyfofol

Mae Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru, sy’n cynghori Llywodraeth Cymru, wedi cyflwyno 37 o argymhellion yn yr adroddiad.

Mae’r rhain yn cynnwys cyflenwadau ynni tymor hir diogel, ansawdd aer gwell,  ac effeithlonrwydd ynni’n cael ei wella mewn cartrefi.

Bydd yna hefyd nifer o gyfleoedd i fusnesau sy’n datblygu cynhyrchion a gwasanaethau trwy ddefnyddio technolegau carbon isel.

Heriau

Cafwyd nifer o rybuddion am yr heriau fydd yn wynebu Llywodraeth Cymru a’r gymdeithas ehangach.

Mae gweithredu yn gynnar yn bwysig iawn, er mwyn sicrhau strategaeth glir a chydweithio rhwng y gwahanol sectorau.

Bydd angen i bob sector ddeall a derbyn eu cyfrifoldebau i gyflwyno’r Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd, yn ôl yr adroddiad.

Bydd angen cydlynu newidiadau strwythurol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae angen arweiniad ar newidiadau mewn technoleg, a’r effaith ar gymunedau yng Nghymru.

Argymhellion i Lywodraeth Cymru

Mae’r comisiwn yn annog Llywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth glir a chyson.

Dylid hefyd blaenoriaethu Rhaglenni Ymaddasu Sectorol mewn cymunedau, ac mewn busnes a thwristiaeth.

Ac mae’n holl bwysig fod mesurau perfformio clir ar gael, i sicrhau cefnogaeth i’r prosiectau carbon isel mwyaf effeithlon.

Gweithredu yng Nghymru yn bwysig

Dywedodd Peter Davies, Cadeirydd  Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru, a’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy:

“Gan y disgwylir i draean yn unig o’r gostyngiad mewn allyriadau a nodir yn Strategaeth Cymru ar Newid Hinsawdd ddod o bolisïau sydd dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn unig, mae angen i bob sector o gymdeithas weithredu ar frys, yn radical ac yn gyson.”