Y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu Gweinidog Iechyd Cymru heddiw am wrthod cynnig i gwrdd â nhw i drafod eu pryderon am ddyfodol Ysbyty Bronglais yn Aberysytwyth.

Dywedodd y Dems Rhydd heddiw fod y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi gwrthod cais i ddod i drafod dyfodol yr ysbyty  gyda nhw, gan ddweud mai’r bwrdd iechyd lleol oedd y bobol i’w holi.

Roedd Arweinydd y Dems Rhydd yng Nghymru, Kirsty Williams, ynghyd ag AS Ceredigion, Mark Williams, a William Powell AC wedi gwneud cais ar y cyd i gwrdd â’r Gweinidog Iechyd.

Mae’n nhw’n poeni fod  Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn bwriadu torri’n ôl ar wasanaethau pwysig yn yr ysbyty, a’u symud i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Ymhlith y gwasanaethau gallai gael eu symud, meddai llefarydd y Dems Rhydd wrth Golwg 360, mae rhai llawdriniaethau canser, a rhai gwasanaethau trawma.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda bellach wedi lansio papur ymgynghoriad ar newidiadau i’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig o fewn y bwrdd iechyd, ond mae’r Dems Rhydd yn poeni fod y Bwrdd Iechyd eisoes wedi penderfynu ar y newidiadau.

Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Mark Williams, heddiw, fod penderfyniad y Gweinidog Iechyd yn dangos ei bod hi “a’i hadran yng Nghaerdydd yn dueddol o anghofio eu bod nhw â chyfrifoldeb uniongyrchol dros wasanaethau iechyd yng Ngheredigion.

“Mae’n amlwg ers rhai misoedd bod Gweinidogion y Cynulliad yn cuddio tu ôl i’r Byrddau Iechyd,” meddai Mark Williams.

Dywedodd William Powell, yr Aelod Cynulliad dros Ganol a Gorllewin Cymru, heddiw fod “penderfyniad y Gweinidog i wrthod dod i gwrdd â fi a fy nghydweithwyr yn dweud cyfrolau am y diystyraeth sydd gan y Gweinidog tuag at ddyfodol Ysbyty Bronglais, a’r rheiny ar draws canolbarth Cymru sy’n dibynnu ar wasanaeth yr ysbyty.”

Mae Golwg 360 wedi gofyn am ymateb y Gweinidog Iechyd.