Mae arolwg newydd gan Estyn yn datgelu fod llythrennedd yn dal yn broblem fawr yn ysgolion Cymru.

Wrth gyhoeddi eu harolwg addysg Cymru ar gyfer 2010/11 heddiw, mae’r gwasanaeth arolygu ysgolion yn dweud fod safon y dysgu mewn llawer o ysgolion wedi gwaethygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae 40% o ddisgyblion yn dechrau yn yr ysgol uwchradd gydag oed darllen sy’n fwy na chwe mis islaw eu hoedran go iawn,” meddai Prif Arolygydd Estyn, Ann Keane, heddiw.

‘Annerbyniol’

“Mae hyn yn annerbyniol,” meddai Ann Keane.

“Mae angen i athrawon a rheolwyr gynllunio gwersi’n fwy effeithiol i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion ym mhob pwnc.”

Cafodd saith awdurdod lleol eu hasesu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o’r rhain, dim ond dau oedd yn cael eu hystyried yn “dda at ei gilydd,” tra bod angen ail ymweld  a phump awdurdod arall.

Roedd dau o’r rhain yn waeth na digonol, gydag un angen “gwelliant sylweddol,” ac un arall yn disgyn i gategori “mesurau arbennig.”

‘Anghyson’

Yn ôl yr adroddiad, prif broblemau’r awdurdodau lleol yw bod presenoldeb plant yn parhau’n rhy isel, fod gallu darllen, ysgrifennu a rhifo plant yn dal yn bryder, a bod ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth yn anghyson iawn.

Yn ôl Prif Arolygydd Estyn, Ann Keane, mae “cwymp” wedi bod “yng nghyfran addysgu ‘rhagorol’ neu ‘eithriadol’ o gymharu â’r cylch arolygu diwethaf.”

Mae’r adroddiad yn nodi bod amrywiaeth ac ansawdd dysgu yn wendid arbennig yn y “mwyafrif o ysgolion.”

Yn ôl Estyn, hyd yn oed pan “fernir bod ysgol yn ‘dda’ at ei gilydd, yn aml, bydd gwersi unigol neu adrannau lle mae ansawdd yr addysgu yn wael.”

System newydd o arolygu

Mae’r system arolygu eleni yn wahanol i’r arfer, gyda mwy o bwyslais ar ba mor dda mae ysgolion yn cyflwyno ffyrdd o ddysgu sydd wedi eu selio ar “fedrau ac ar hunanarfarnu.”

Yn ôl y ffon fesur newydd yma, dywed y Prif Arolygydd fod yr arolwg yn 2010/11 wedi darganfod cryfderau amlwg yn y Cyfnod Sylfaen, a bod bechgyn a marched yn fwy annibynnol, hyderus a chreadigol.

Mae’r arolwg hefyd yn dangos fod pedair o bob pump ysgol gynradd, a dwy o bob tair ysgol uwchradd yn “dda yn bennaf,” ac mae’n canmol datgblygiadau o ran lles plant mewn ysgolion.