Mae eira trwm wedi achosi problemau mewn rhannau o Gymru heddiw.

Yn Sir Benfro mae ffordd y B4329 dros fynyddoedd Preseli, o Aberteifi i Hwlffordd – wedi cau oherwydd yr eira.

Ac mae nifer o’r ffyrdd llai yn ardal Puncheston hefyd yn wynebu trafferthion.

Yn gynharach heddiw roedd rhannau o’r A4069 rhwng Brynaman a Llangadog yn Sir Gaerfyrddin ar gau i’r ddau gyfeiriad mewn mannau oherwydd yr eira trwm.

Mae gweithwyr y cyngor wedi bod yn ceisio clirio’r ffyrdd ar ddechrau wythnos oeraf y gaeaf hyd yn hyn.