Mae mwy o bobol yn marw o achos alcohol yng Nghymru nag yn Lloegr, yn ôl y ffigurau diweddara’.

Ac roedd y bwlch wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod ail hanner y degawd diwetha’, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’r broblem yn waeth ymhlith merched a dynion fel ei gilydd ond mae’r bwlch wedi lledu mwy ymhlith dynion.

Mae’r ffigurau’n cael eu mesur fesul 100,000 o’r boblogaeth ac yng Nghymru yn 2010, roedd y gyfradd yn 18.9 ymhlith dynion a 10.2 ymhlith merched.

  • Mae hynny’n cymharu gydag 16.1 ymhlith dynion yn Lloegr a 7.5 ymhlith merched.
  • Yn y flwyddyn waetha’ – 2008 – fe fu farw 541 o bobol oherwydd clefydau’n ymwneud ag alcohol, a hynny bron 200 yn fwy nag yn 2000.
  • Dim ond Gogledd Orllewin a Gogledd Ddwyrain Lloegr sydd â ffigurau gwaeth.

Fe fu farw 8,790 o bobol trwy Gymru a Lloegr oherwydd clefydau’n ymwneud ag alcohol yn 2010, gyda’r nifer mwya’, a’r cynnydd mwya’ ymhliht dynion rhwn 55 a 74 oed.