Bydd cyfarfod arbennig o Gyngor Powys sy’n trafod datblygiadau ffermydd gwynt anferth yn y sir, yn cael ei ddarlledu ar y We.

Dyma’r darllediad byw cyntaf o’i fath gan gyngor yng Nghymru ac, yn ôl Cadeirydd Cyngor Powys, mae’n arwydd o’r diddordeb yn y pwnc.

“Mae’r materion sydd yng nghlwm â ffermydd gwynt, TAN 8, a’u heffaith posib ar y sir yn cal i fod yn bryder mawr i bobol Powys,” meddai Barry Thomas.

Bydd y cyfarfod yn trafod argymhelliad gan grŵp TAN 8 aml-bleidiol o gynghorwyr y sir, a sefydlwyd ar ôl cyfarfod cyhoeddus arbennig yn y Trallwng fis Mehefin diwethaf yn trafod strategaeth ffermydd gwynt y sir.

Mae’r we-ddarllediad byw ar gael wrth fynd i wefan y cyngor: http://www.powys.gov.uk/index.php?id=1&L=1.