Parlwr godro
Llywodraeth Cymru fydd yn cael y gair olaf ynglŷn a chynlluniau i adeiladu fferm odro enfawr ger Y Trallwng yng nghanolbarth Cymru, fe gyhoeddwyd heddiw.

Roedd y ffermwr Fraser Jones wedi cael caniatâd gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Powys y llynedd i adeiladu parlwr godro ar gyfer 1,000 o wartheg.

Ond mae’n ymddangos bod John Griffiths, gweinidog yr amgylchedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu adolygu’r cais oherwydd pryderon am lygredd a’r effaith weledol.

Ail-edrych ar y cynlluniau

Dywedodd Fraser Jones ei fod yn siomedig ynglŷn a’r datblygiad, ond mae grwpiau hawliau anifeiliaid wedi croesawu’r penderfyniad.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys ehangu’r fferm bresennol yn Nhre’r Llai i greu parlwr ar gyfer mil o wartheg yn ogystal a nifer o adeiladau eraill ar gyfer storio slyri a phorthiant.

Cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno i’r awdurdod lleol fis Chwefror y llynedd.

Roedd swyddogion y cyngor wedi argymell na ddylai’r fferm odro gael caniatâd cynllunio, ond fe benderfynodd cynghorwyr fynd yn groes i gyngor y swyddogion mewn cyfarfod ym mis Tachwedd.

Yn ddiweddarach fe benderfynodd John  Griffiths bod angen adolygu’r cynlluniau oherwydd y pryderon am lygredd a slyri yn lledaenu, a’r effaith weledol ar Y Castell Coch ym Mhowys gerllaw.

‘Siomedig’

Dywedodd Fraser Jones: “Rydw i’n eithaf siomedig eu bod nhw wedi galw’r cais yn ôl, ond dwi’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn sylweddoli nad oes na berygl o lygredd nag unrhyw resymau eraill pam na all fynd yn ei flaen, a dyna beth oedd barn y cynghorwyr ar ôl iddyn nhw fod yma yn ymweld â’r safle.”

Mae’r grŵp World Society for the Protection of Animals  (WSPA) wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau a heddiw dywedodd  y gymdeithas eu bod ar ben eu digon o glywed mai Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu tynged y fferm.

Dywedodd llefarydd ar ran WSPA Simon Pope y byddai rhoi caniatâd am fferm odro enfawr yng nghefn gwlad Cymru “yn gosod cynsail bryderus”.