Mae ymchwil newydd a phellgyrhaeddol i ddiagnosis o ganser y prostad yn digwydd ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r  ymchwil yn cael ei ariannu gan Elusen Canser y Brostad, a’r gobaith yw, os fydd yr astudiaeth yn llwyddiant, y bydd yn galluogi meddygon i weld yn fwy eglur faint a lleoliad cancr prostad, ac y byddan nhw drwy hynny yn medru gwneud gwell penderfyniadau am y driniaeth gywir ar gyfer pob sefyllfa unigol.

Gall y dulliau presennol ar ddelweddu canser y prostad yn ystod diagnosis weithiau roi delwedd aneglur o’r tiwmor.

Derbyniodd y prif ymchwilydd, yr Athro Reyer Zwiggelaar £60,100 i oruchwylio prosiect PhD i astudio’r syniad newydd o gyfuno canlyniadau adlais magnetig (MRI) gyda chanlyniadau uwchsain er mwyn rhoi syniad manylach o leoliad canser y prostad yn y corff.

‘Cyfnod anodd’

Esbonia’r Athro Zwiggelaar, o’r Adran Gyfrifiadureg, Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r cyfnod o wneud penderfyniadau yn dilyn diagnosis o ganser y prostad yn medru bod yn gyfnod anodd i lawer o ddynion, a gwaethygir hyn gan yr ansicrwydd sydd yn y dulliau presennol o lunio diagnosis.

“Trwy archwilio’r buddiannau sy’n codi o gyfuno adlais magnetig gydag uwchsain, bwriadwn ddatblygu dull ar ddiagnosis a fydd yn ein galluogi i adeiladu delweddau mwy trylwyr a manwl ar diwmorau unigol yn y brostad nag y medrwn ar hyn o bryd.

“Gobeithiwn y bydd y gwelliannau i gywirdeb y diagnosis yn rhoi mwy o hyder i ddoctoriaid wrth iddynt ddewis pa driniaethau i’w defnyddio ac yn sicrhau fod mwy o’r triniaethau hynny yn llwyddiannus.”

Cefnogi ymchwil

Mae’r grant hwn wedi’i ddyfarnu i’r Athro Zwiggelaar a Phrifysgol Aberystwyth fel rhan o raglen barhaus Elusen Canser y Prostad i gefnogi ymchwil i helpu trin y cansr.

Eleni, mae’r elusen wedi gwobrwyo dros £2 miliwn o grantiau – ei buddsoddiad ymchwil mwyaf erioed – i sefydliadau ar draws y DU er mwyn hybu gwelliannau mewn diagnosis a thriniaeth cancr y brostad.

‘Prosiect blaengar’

Dywedodd Dr Kate Holmes, Rheolwr Ymchwil yn Elusen Cancr y Brostad: “Un o’r sialensiau mwyaf ym myd ymchwil canser y brostad yw medru rhoi diagnosis o’r afiechyd yn y lle cyntaf.

“Dewisom ariannu’r prosiect blaengar hwn gan ein bod yn credu y bydd yn rhoi atebion angenrheidiol i ddoctoriaid er mwyn iddynt fedru rhoi diagnosis mwy cywrain a thriniaeth gyflymach a fydd yn wir gymorth i ddynion yn nyddiau cynnar yr afiechyd. Edrychwn ymlaen at gael gweithio’n agos gyda’r tîm a disgwyliwn yn eiddgar am ganlyniadau’r ymchwil.”