Mae Prifathrawes ysgol gynradd yng Ngwynedd wedi croesawu cefnogaeth ariannol ychwanegol sydd ar gael i ysgolion sy’n wynebu dosbarthiadau mwy.
Mae Arweinydd Portffolio Cyllid Plaid Cymru yng Ngwynedd, y Cynghorydd Siân Gwenllian, wedi dweud y bydd ysgolion yn gallu gwneud cais am arian grant o’r “Gronfa Maint Dosbarthiadau”.

“Mae Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd Gwynedd yn ddiolchgar iawn am barodrwydd aelodau etholedig Cyngor Gwynedd i barhau i ryddhau’r arian ychwanegol hwn o £200,000 yn ychwanegol i’r gyllideb addysg am y flwyddyn 2012-2013.   Gyda chyfraniad ysgolion y sector, mae’n creu cronfa gyfan o £300,000,” meddai Cadeirydd Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd Gwynedd, Bethan Morris-Jones.

‘Methu cyrraedd potensial’

Fe ddywedodd Arweinydd Portffolio Ysgolion Plaid Cymru, y Cynghorydd Liz Saville Roberts “ fod llawer o ysgolion cynradd yn wynebu’r dasg anodd o orfod lleihau niferoedd staffio, a’r unig ffordd ymlaen yw i gynyddu maint dosbarthiadau.”

Oherwydd lleihad mewn cyllidebau ysgolion, bydd rhai plant yn methu â chyrraedd eu llawn botensial yn y dosbarth, meddai.

“Bydd hyn yn deillio o’r ffaith y bydd nifer mwy o blant mewn dosbarthiadau yn ardaloedd tlotaf y Sir, ac y bydd ysgolion canolig eu maint yn wynebu newidiadau mawr i’w strwythur staffio.

“Dyma’r neges dw i’n ei chlywed wrth drafod gyda Phenaethiaid Ysgolion, Llywodraethwyr a rhieni, ac rydw i’n falch iawn y bydd rhai ysgolion yn elwa o’r arian ychwanegol hwn i geisio lleddfu rhywfaint ar y problemau ym mis Medi 2012,” meddai Liz Saville Roberts.