Dechrau fideo Indigo, Creision Hud
Owain Schiavone sy’n dathlu rhai o’r fideos cerddorol creadigol sydd wedi dod i’r fei dros y flwyddyn ddiwethaf…

Erbyn hyn mae fideos cerddorol wedi dod yn araf hollbwysig wrth hyrwyddo unrhyw fand neu gynnyrch cerddorol newydd.

Ar un olwg, mae fideos cerddoriaeth Cymraeg yn mynd yn bethau prin.

Yn y gorffennol bu rhaglenni teledu fel Fideo 9, Garej ac wrth gwrs Bandit yn cynhyrchu fideos cerddorol o safon uchel iawn ar S4C.

Dros gyfnod y Nadolig bu i ni ffarwelio â’r diweddaraf o’r cyfresi hyn – er mai dim ond nawr ac yn y man roedd rhaglenni Bandit yn cael eu cynhyrchu yn ddiweddar, mae llawer yn mynd i deimlo’n chwith ar eu hôl.

Yn sicr fe lwyddodd Bandit i gynhyrchu nifer o fideos gwych ar gyfer rhai o fandiau gorau Cymru. Pwy sy’n cofio fideo thema badminton y gân ‘Dal Ni Lawr’ gan Genod Droog…sydd wedi cael ei wylio dros 52,000 o weithiau ar YouTube.

Neu beth am ‘Madrach’ gan Derwyddon Dr Gonzo, yn serennu Huw Marshall neb llai.

A’r gorau oll yn fy marn fach i, fideo Mods v Rockers anthem Plant Duw, ‘Nerth dy Draed’.

Fyswn i’n gallu hiraethu trwy’r dydd am fideos y gyfres (ac ella y gwnâi mewn blog arall…) ond yn hytrach na hynny dwi am ddathlu’r fideos cerddorol amgen a gynhyrchwyd yn ystod 2011.

Pwy a ŵyr os fydd artistiaid yn ddigon lwcus i recordio fideos trwy garedigrwydd pwrs ein sianel deledu yn y dyfodol agos. Hyd y gwn i mae’r drafodaeth yn parhau ynglŷn â rhaglen addas i lenwi esgidiau Bandit, ond cwestiwn arall ydy a fydd y rhaglen honno’n cynnwys fideos wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol.

Yn y cyfamser, mae rhai o’n hartistiaid wedi penderfynu cymryd mater i’w dwylo eu hunain a bod yn greadigol, gan gynhyrchu fideos yn annibynnol, a chwarae teg iddyn nhw hefyd. Mae eraill wedi cael cymorth gan wneuthurwyr ffilm mwy profiadol.

Dyma felly fy mhump hoff fideo cerddorol Cymraeg (annibynnol-ish) ar gyfer 2011:

5. mr huw: Creaduriaid Byw un o fideos niferus mr huw i gydfynd â chaneuon o’i albwm ‘Gogleddwyr Budr. Mae hwn wedi’i gyhyrchu gan Aled Rhys Jones.

4. She Said: Creision Hud – mae ’na stori a phlot i hon gyda golygfeydd amrywiol o Gaerdydd yn gefndir.

3. V moyn T: Colorama – 3 o aelodau Colorama ym Mharc y Rhath…be arall sydd angen?

2. Undegpedwar: Y Niwl – ai’r fideo yma o fersiwn Cymru o Rocky ddaliodd sylw cynhyrchwyr Football Focus?

1. Indigo: Creision Hud – hollol, hollol syml ond hynod effeithiol. Er y symlrwydd mae tipyn o waith wedi mynd mewn i’r fideo ac mae’r grŵp yn haeddu clod am gynhyrchu 5 fideo i’w caneuon yn 2011.

Er y gellid dadlau ei fod yn cyfrannu at ddirywiad rhai o’r cyfryngau cerddoriaeth traddodiadol, heb os mae’r we’n cynnig llwyfan gwych ar gyfer cerddoriaeth a’r potensial i gyrraedd cynulleidfa llawer ehangach.

Un ffordd effeithiol ac adloniadol iawn o hyrwyddo eich cerddoriaeth ar-lein ydy trwy gyfrwng fideo, ac er bod rhai enghreifftiau creadigol iawn uchod, does dim digon o fideos cerddoriaeth Gymraeg i’w gweld ar-lein.

Fy neges i grwpiau Cymru felly ydy hyn, ewch ymaith i gynhyrchu fideos annibynnol ar gyfer eich caneuon, yn hytrach na disgwyl i rywun gynnig gwneud un i chi.