Mae gwleidyddion yn dweud fod y cyhoeddiad neithiwr fod cwmni dllad Peacocks, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cael  ei roi yn nwylo’r gweindyddwyr yn mynd i gael effaith anferthol ar dde Cymru.

Mae Peacocks yn cyflogi  9,600 o bobl yn y DU ac fe fydd y staff yn clywed bore ma beth fydd eu tynged.

Mae cwmni KPMG  wedi cael eu penodi fel gweinwyddwyr i Peacocks sy’n berchen 611 o siopau ar draws y DU.

‘Ergyd anferth’

Wrth drafod y cyhoeddiad heddiw, dywedodd llefarydd busnes y Ceidwadwyr, Nick Ramsey, fod y sefyllfa yn “ergyd anferth” i bawb sydd wedi eu heffeithio.

Neithiwr, daeth y cyhoeddiad fod cwmni Peacocks, sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae miloedd o swyddi yn y fantol y bore ’ma, er bod y siopau’n parhau’n agored  wrth i gwmni KPMG ddechrau ar eu gwaith fel gweinyddwyr, a cheisio dod o hyd i brynwr.

“Mae ein meddyliau ni gyda holl weithwyr Peacocks ar hyn o bryd, a’u teuluoedd, sydd nawr yn wynbeu adeg ansicr iawn,” meddai Nick Ramsey.

“Mae’r datblygiad hwn yn dystiolaeth bellach ynglŷn â sefyllfa bregus yr economi ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth nawr i barhau â’u trafodaethau a gwneud yn siwr bod cefnogaeth yn ei le i bawb oedd ynghlwm â’r cwmni.”