Mae cynlluniau newydd ar waith i reoli nifer myfyrwyr er mwyn sicrhau bod cyrsiau Prifysgol mwyaf costus Cymru yn gallu cael eu hariannu.

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, HEFCW, wedi cyhoeddi heddiw y bydd ad-drefnu ar nifer y myfyrwyr sy’n cael gwneud gwahanol bynciau yng Nghymru o 2013-14 ymlaen, er mwyn sicrhau ei bod hi’n bosib ariannu’r pynciau pwysicaf.

Yn ôl HEFCW, mae’r trefniadau newydd, a gytunwyd y llynedd, wedi eu llunio er mwyn sicrhau bod digon o gyllid ar gael i ariannu cyrsiau drutaf a phwysicaf Cymru oherwydd y newid yn y ffioedd myfyrwyr o 2013-14 ymlaen.

Mewn datganiad, dywedodd HEFCW fod y trefniadau i fod i sicrhau bod “ffioedd myfyrwyr yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau posibl i fynd i’r afael â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg uwch.”

Yn ôl HEFCW, mae’n rhaid sicrhau bod sefydliadau sydd â chanran uchel o bynciau drud, fel y gwyddorau, neu bynciau blaenoriaethol, fel cyrsiau ymarfer dysgu a ieithoedd modern, neu sydd ag adrannau ymchwil cryf, yn cael digon o gyllid i’w cynnal nhw dan y drefn newydd.

Bydd hyn yn golygu “rhai addasiadau” i’r ffordd mae incwm ffioedd a grantiau HEFCW yn cael eu dosbarthu ar draws y sefydliadau o flwyddyn nesaf ymlaen.

‘Mwy o bwyslais ar bynciau pwysig’

Gan mai HEFCW sydd yn penderfynu ar niferoedd y myfyrwyr israddedig amser llawn a myfyrwyr TAR blwyddyn gyntaf ym mhob prifysgol, maen nhw’n dweud y bydd niferoedd myfyrwyr sy’n cael gwneud rhai pynciau yn cael eu newid o 2013-14 ymlaen.

Dywedodd yr Athro Philip Gummett, Prif Weithredwr HEFCW, ei fod yn “disgwyl y bydd gan yr holl brifysgolion mwy o incwm ar gyfer israddedigion amser-llawn o ganlyniad i’r drefn ffioedd newydd, o’i gymharu â’r system bresennol.”

‘Bygwth darpariaeth addysg’

Ond mae’r drefn wedi cael ei feirniadu gan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru heddiw, sy’n dweud mai ymateb brys i newididadau ffioedd myfyrwyr yn Lloegr – lle bydd myfyrwyr yn talu hyd at £9,000 y flwyddyn – yw’r cynlluniau newydd.

Yn ôl Cadeirydd yr undeb yng Nghymru, Luke Young, mae’r system “yn deillio o bolisi a luniwyd yn frysiog yn Lloegr, sydd wedi gorfodi’r Cyngor Cyllido i weithredu i amddiffyn ein prifysgolion.

“Mae’r obsesiwn gyda gorfodi presenoldeb y farchnad ar addysg uwch yn cael effaith amlwg dros y ffin yng Nghymru,” meddai.

Dywedodd fod angen “cymryd gofal nad yw hyn yn gosod straen ar y ddarpariaeth leol o leoedd mewn sefydliadau mewn rhannau o Gymru oherwydd y dull o ail-ddosbarthu niferoedd myfyrwyr.

“Caiff llwyddiant y system hon ei beirniadu ar sail gallu prifysgolion i amddiffyn darpariaeth leol, i ffynnu ar lefel genedlaethol, a lleihau’r crocbris sy’n rhaid i fyfyrwyr dalu mewn ffioedd ar hyn o bryd,” meddai.