Richard Wyn Jones
Mae disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi enwau’r arbenigwyr fydd yn sefyll ar gomisiwn i ystyried a oes angen atal ASau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon bleidleisio ar faterion sydd ond yn effeithio Lloegr heddiw.

Mae disgwyl i’r datganiad y prynhawn yma nodi pwy yn union fydd ar y comisiwn, a beth fydd cylch gorchwyl y comisiwn, sydd i fod i ddechrau ar ei waith ym mis Chwefror.

Bydd y Comisiwn yn mynd i’r afael â’r hen Gwestiwn Gorllewin Lothian, sy’n gofyn a ddylai ASau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael pleidleisio ar faterion sy’n effeithio ar Loegr yn unig, yn sgil datganoli.

Arolwg

Mae’r drafodaeth wedi cael cefnogaeth mawr yn Lloegr yn ddiweddar, ar ôl i 79% o bleidleiswyr ddweud eu bod eisiau gweld ASau o’r Alban yn cael eu hatal rhag pleidleisio ar faterion sy’n effeithio dim ond ar Loegr, gan fod Senedd eu hunain ganddyn nhw nawr.

Mae’r arolwg newydd gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus ar y cyd â Phrifysgolion Caerdydd a Chaeredin, yn dangos cefnogaeth mawr yn Lloegr i fynd i’r afael â’r anghysondeb cyfansoddiadol – sy’n caniatau i ASau yr Alban bleidleisio ar faterion sydd ond yn effeithio Lloegr, ond yn atal ASau Lloegr rhag pleidleisio ar faterion datganoledig.

Yn ôl yr arolwg roedd 53% o bleidleiswyr o Loegr yn gryf o blaid atal ASau’r Alban rhag cael pleidleisio, tra bod 26% arall wedi dweud eu bod nhw’n cytuno gydag atal ASau’r Alban rhag pleidleisio ar faterion Lloegr. Dim ond 12% oedd yn anghytuno.

Mae’r arolwg yn dangos fod nifer y rhai sy’n gryf yn erbyn rhoi llais i ASau o’r Alban ar faterion Lloegr wedi mwy na dyblu ers 2007.

‘Angen gwrando ar y bobol’

Ond ar drothwy cyhoeddi enwau cylch arbenigol y Comisiwn, mae’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus wedi rhybuddio fod angen barn mwy na dim ond arbenigwyr.

Yn ôl yr arolwg, sydd wedi ceisio mesur y farn gyhoeddus ar y mater, bydd angen trafod â’r bobol eu hunain cyn penderfynu ar ddyfodol llywodraethol Lloegr mewn undeb ddatganoledig.

Mae’r Sefydliad hefyd yn dweud fod y drafodaeth eang ar annibyniaeth i’r Alban nawr yn rhoi cyfle i drafod Cwestiwn Gorllewin Lothian yn ehangach ym Mhrydain.

Ond, yn ôl yr arbenigwr gwleidyddol o Brifysgol Caerdydd, Richard Wyn Jones, sydd wedi cyd-ysgrifennu’r adroddiad, dydi “cynnwys y Comisiwn na’r cylch gorchwyl yma’n awgrymu bod hyn yn ymgais o ddifrif i ateb Cwestiwn Gorllewin Lothian yn derfynnol.”

Mae’r athro yn awgrymu gallai’r comisiwn fod yn ymgais i wthio’r mater “dan y carped” am y tro.

‘Rhybudd i Loegr’

Ond mae Richard Wyn Jones yn rhybuddio y gallai anwybyddu “anhegwch”  y system bresennol i Loegr fod yn benderfyniad niweidiol iawn i’r Llywodraeth.

“Gwae ni am fethu a gwerthfawrogi barn bresennol pleidleiswyr Lloegr,” meddai.

“Yn y 1980au cafodd yr anhegwch mewn system a alluogodd Cymru a’r Alban adain-chwith iawn i gael eu rheoli gan blaid heb fandad yn y glwedydd hynny yr effaith o arwain at genhedlaeth nad oedd modd ei atal i wthio tuag at ddatblygiadau datganoli yn y 1990au.

“Dyw hi ddim yn anodd dychmygu sut y byddai math gwahanol o anghysondebau yn gallu creu ymateb tebyg yn Lloegr. Ac yn wir, fe allai hynny eisoes fod ar waith.”

Roedd y cytundeb glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd yn 2010 yn cynnwys addewid i sefydlu comisiwn i edrych ar Gwesitwn Gorllewin Lothian, ac mae’r datganiad heddiw yn rhan o weithredu hynny.