Mae un o far-gyfreithwyr blaenllaw yr ymgyrch yn erbyn tyrbinau gwynt yng Nghymru wedi rhybuddio na fydd diwedd ar yr achosion llys yn herio ffermydd gwynt.

Mae Neville Thomas QC wedi rhybuddio fod TAN 8, sy’n mynegi dyhead Llywodraeth Cymru ar gyfer harneisio ynni gwynt, yn mynd yn groes i reolau Ewropeaidd.

Yn ôl y bar-gyfreithiwr, sy’n rhan o Gynghrair Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru, dylai TAN 8 fod wedi ei “grogi ar ei enedigaeth.”

Mae Neville Thomas yn dweud fod amcan Llywodraeth Cymru, drwy TAN 8, yn anwybyddu rheolau Ewropeaidd sy’n galw arnyn nhw wneud asesiad o effaith unrhyw ddatblygiad fel tyrbeini gwynt ar yr amgylchedd.

“Mae’r Cyfarwyddeb Ewropeaidd yn rhoi cydraddoldeb rhwng y datblygiad a’r niwed amgylcheddol, beth bynnag yw natur y datgblygiad,” meddai, wrth gyflwyno’i dystiolaeth o flaen y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyaeth ddydd Iau diwethaf.

“Mae’n hollol amlwg fod mil a mwy o dyrbeini gwynt wedi eu gosod ar draws bryniau a choedwigoedd Cymru (yn ogystal â’r rhwydwaith sydd ei angen ar y systemau) yn mynd yn groes i bron bob un o’r gofynion.”

Mae’r bar-gyfreithiwr yn dweud fod y Llywodraeth wedi gwthio TAN 8 drwyddo mewn cyfnod byr iawn yn 2004, er mwyn osgoi’r craffu ar y mesur a fyddai wedi dod yn sgil y Cyfarwyddeb Ewropeaidd sydd bellach wedi ei gyflwyno.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru heddiw fod eu gwaith ar TAN 8 “wedi dechrau yn 2002, ac wedi ei gwblhau ym mis Gorffennaf 2005. Mae hynny’n golygu nad oedd TAN 8 wedi ei glymu gan y Gyfarwyddeb Ewropeaidd.”

‘Dim osgoi Ewrop yn y llysoedd’

Ond mae Neville Thomas QC yn dweud na fydd modd osgoi rheoliadau Ewrop os bydd y mater yn cael ei godi yn y llys.

“Os yw Bae Caerdydd yn parhau i fod yn gyndyn, yr unig ganlyniad fydd achosion llys di-bendraw yn ystod y blynyddoedd nesaf,” rhybuddiodd Neville Thomas.

“Nid un frwydr fydd yn setlo’r ddadl hon unwaith ac am byth,” meddai.

“Mae TAN 8 yn bolisi sydd wedi methu: bob tro y bydd yn wynebu’r Cyfarwyddeb, ar lefel cynllunio lleol neu mewn llys barn, bydd TAN 8 yn cael ei daro’n ôl gan y Cyfarwyddeb,” meddai.

“Mae bob ffaith a nodwedd sy’n perthyn i TAN 8 yn ysgogi diffyg ffydd. Mae’n rhaid ei adolygu ar unwaith er mwyn adfer hyder pobol ym mhroses Llywodraeth, ac i gynnal y system gynllunio rhag chwerwder, aflonyddwch a chyfreitha tymor-hir.”

Ond mae’r Llywodraeth wedi taro’n ôl heddiw gan ddweud fod “TAN 8 yn parhau’n addas ar gyfer y pwrpas, ac rydyn ni’n dal i sefyll wrth ein polisiau cynllunio, sy’n cael eu harwain gan ymchwil annibynnol, ac yn adnabod saith maes ar gyfer datblygu ffermydd gwynt, er mwyn lleihau gormodedd o ffermydd gwynt.”