Mae cwynion wedi bod am ormod o Saesneg ar raglen Llais i Gymru ar S4C neithiwr.

Yn y gyfres newydd, mae S4C yn dilyn un o gwmnïau recordio mwya’r byd, Decca  i geisio dod o hyd i seren gerddorol nesaf Cymru. Shân Cothi sy’n dilyn yr ymdrech, mewn cydweithrediad â’r asiant dalent Sioned James o Gaerdydd.

Roedd llawer o negeseuon wedi ymddangos ar wefan Twitter neithiwr yn cyfeirio at y defnydd o’r Saesneg yn y rhaglen.

Roedd Arwel Jones wedi cyhoeddi neges ar ei gyfrif Twitter yn gofyn “pam bod llais i Gymru ar S4C? Rhaglen Saesneg ydy hon ia?”

“Roedd o wedi cyrraedd sefyllfa lle’r oedd panelwyr – dau allan o dri ohonynt yn ddi-Gymraeg. Felly, roedd unrhyw beth yn ymwneud â nhw yn Saesneg,” meddai Arwel Jones wrth Golwg360.

‘Go brin bod Cymraeg o gwbl ar adegau’

Dywedodd bod “Cymry Cymraeg yn canu caneuon Saesneg i banel Saesneg” ar y rhaglen. “Go brin fod ’na Gymraeg yna o gwbl ar adegau,” meddai.

“Mi wellodd pethau yn ail hanner y rhaglen. Fe aethon nhw ar ôl fwy o hanes y cwmni, roedd hi’n fwy o raglen ddogfen wedyn,” meddai.

“Cystadleuaeth dalent ydi hi yn y bôn, felly dydw i ddim yn meddwl bod y busnes Decca ddigon gwreiddiol i gyfiawnhau bod rhaid cael barn Saesneg i wneud y rhaglen,” meddai cyn dweud y byddai wedi “hoffi clywed mwy o Gymraeg.”

“Mae’n amlwg nad oedd Decca yn chwilio am neb oedd yn mynd i berfformio yn Gymraeg. Mi fydd hi’n ddiddorol gweld pwy fyddan nhw’n ddewis…

“Maen nhw wedi dewis eu pedwar. Os nad yw’r pedwar yna yn Gymry Cymraeg – bydd llai fyth o Gymraeg am fod. Neu ydyn nhw jest am ddewis Cymry Cymraeg – fyddai hynny yn deg ar y Cymry di-Gymraeg wedyn?”

Ond, roedd y cyflwynydd a’r Cynhyrchydd Teledu Nia Parry wedi cyhoeddi neges Twitter yn canmol y  rhaglen neithiwr – “…talent Llais i Gymru ar s4c knocks the socks off x factor! Joio xx #llaisiGymru #llais

Cyhoeddodd ei bod yn cymryd rhan mewn rhaglen newyddion ar BBC Radio Cymru heddiw “er mwyn amddiffyn y defnydd o Saesneg ar Llais i Gymru.”

‘Cwmni mawr rhyngwladol’

“Er mwyn rhoi cyfle i dalent o Gymru i ehangu’u gorwelion mae’n fantais cael cwmni mawr rhyngwladol yn rhan o’r broses,” meddai llefarydd ar ran S4C wrth ymateb i’r cwynion.

Mae Prif Weithredwr S4C yr wythnos hon wedi croesawu “canlyniadau calonogol iawn” ar ôl i ffigyrau a gyhoeddwyd ddatgelu bod nifer gwylwyr S4C “wedi cynyddu” dros y flwyddyn 2011.

O ran cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol S4C yng Nghymru yn 2011 fe welwyd cynnydd o 7,000 – i fyny o 467,000 yn 2010 i 474,000, meddai’r ffigyrau.

Dros y Deyrnas Unedig, mae cyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol y Sianel i fyny 2,000 ar y flwyddyn – o 616,000 yn 2010 i 618,000 yn 2011.