Cheryl Gillan yn croesawu newidiadau i gynlluniau rheilffordd

 


Cheryl Gillan
Mae Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan wedi dweud ei bod yn croesawu ymdrechion i leihau effaith y rheilffordd trenau cyflym HS2 ar ei hetholaeth yn Chesham ac Amersham.

Roedd Cheryl Gillan wedi dweud yn y gorffennol y byddai’n ymddiswyddo  petai’r cynlluniau ar gyfer rheilffordd HS2, sy’n werth £32.7 biliwn, yn cael sêl bendith y Llywodraeth.

Ond heddiw dywedodd mai dim ond cychwyn  mae’r broses ar gyfer y cynlluniau. Ychwanegodd ei bod wedi trefnu i gwrdd â’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau ynglŷn â’r prosiect yn gwneud “cyn lleied o niwed â phosib i’r amgylchedd a’r cymunedau lleol, ac yn rhoi cymorth i’r rhai hynny fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad heddiw.”

Mae’r Llywodraeth wedi rhoi ei sêl bendith heddiw i’r cynllun rheilffordd, a fydd yn golygu bod trenau cyflym yn cludo hyd at 1,100 o deithwyr yn gallu teithio o Lundain i Birmingham mewn 45 munud, gan ddweud y bydd y prosiect o fudd i’r wlad gyfan.

Ond fe fydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Justine Greening yn wynebu her gan fod y rhai sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau wedi dweud y byddan nhw’n parhau i frwydro yn erbyn y prosiect.

Oherwydd y gwrthwynebiad i’r cynlluniau, mae Justine Greening wedi cyhoeddi rhai newidiadau gan ddweud y bydd y rhan fwyaf o rhan gyntaf y prosiect, o Lundain i Birmingham, mewn twnelau.

Mae hi hefyd wedi cyhoeddi mesurau ychwanegol i helpu’r rhai a fydd yn cael eu heffeithio gan  y prosiect.

Mae Justine Greening yn honni y bydd y cynllun yn golygu gwell cysylltiadau, swyddi newydd, a thwf yn yr economi. Ond mae’r rhai sy’n gwrthwynebu’r prosiect, gan gynnwys rhai cynghorau a thrigolion lleol, yn dweud na fydd o fudd i fusnesau na’r economi, ac nad oes arian i dalu am y cynllun.

Mae Network Rail ac undebau’r rheilffyrdd wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Cofio Eirwyn Pontsiân – darlith Lyn Ebenezer