Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad ar ôl marwolaeth sydyn dyn 32 oed mewn tafarn yn Aberdâr neithiwr.

Bu farw’r dyn yn nhafarn Wetherspoons yn y dre yn gynnar nos Lun, 9 Ionawr.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhywun a oedd yn y dafarn ar y pryd rhwng 5.30pm a 7.30pm a sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0500 888111.