Mae disgwyl i Gyngor Sir Gâr wneud toriadau o 10% yng nghyllideb Mentrau Iaith Sir Gâr y flwyddyn nesaf, fel rhan o becyn o doriadau gwerth £20 miliwn yn y sir.

Mewn datganiad gan arweinydd y Cyngor heddiw, dywedodd Meryl Gravell na allai’r cyngor barhau i ariannu’r Mentrau i’r lefel bresennol, ac y byddai toriad o 10% yn eu cyllideb y flwyddyn nesaf.

Mae’r Cyngor Sir yn gwario £100,000 y flwyddyn yn cyllido tair Menter Iaith yn y sir ar hyn o bryd, sef Menter Gorllewin Sir Gâr, Menter Bro Dinefwr, a Menter Cwm Gwendraeth.

Roedd pryderon yr wythnos diwethaf y gallai’r Mentrau Iaith orfod ysgwyddo toriadau o hyd at 50%, yn sgil cynigion a roddwyd gerbron y cyngor.

Ond heddiw, dywedodd y Cynghorydd Meryl Gravell fod y cyhoeddiad wedi ei wneud er mwyn atal pobol rhag “poeni’n ddiangen ac i roi taw ar y dyfalu a’r sylwadau annefnyddiol i’r wasg.”

‘Croeso gofalus’

Mae’r newyddion wedi cael croeso gofalus gan Fentrau Iaith y Sir, sy’n falch na fu’n rhaid wynebu toriadau gwaeth ond sydd nawr yn gorfod dechrau meddwl am le i wneud arbedion.

Yn ôl Prif Swyddog Menter Gorllewin Sir Gâr, Diana Davies, mae’r newyddion “yn bendant yn welliant o’r toriad o 50%.”

Mae toriad o 10%, sydd gyfystyr â bron i £3,500 i Fenter Gorllewin Sir Gâr, yn golygu “na fydd yn rhaid i ni neud penderfyniadau rhy eithafol,” meddai Diana Davies wrth Golwg 360.

“Pe bai ni’n gorfod torri 50% bydde’n rhaid i’r pwyllgor rheoli neud rhai penderfyniadau anodd iawn,” meddai, ond gan rhybuddio y bydd dal yn “rhaid i rywbeth fynd.”

Yn ôl  Diana Davies, fe fydd cyrraedd targedau craidd y Mentrau Iaith yn dal yn bosib gyda thoriadau o 10%, ac fe ddylai’r prosiectau Ewropeaidd hefyd fod yn ddiogel rhag y toriadau, ond mae’n debygol y bydd yn rhaid i rai digwyddiadau gael eu hatal  y flwyddyn nesaf.

“Bydd yn rhaid i ni weithio ‘da’r Cyngor Sir nawr i sicrhau ein bod nin cyrraedd ein targedau iaith,” meddai Diana Davies, “gan obeithio y gallwn ni gael y 10% yn ôl erbyn flwyddyn nesa’.”

‘Torri yn y llefydd addas’

Wrth gyhoeddi’r cynigion heddiw, dywedodd Meryl Gravell fod y Cyngor wedi adolygu’r rhestr ar gyfer arbedion, a’i bod wedi dod i’r amlwg fod “rhai meysydd lle na fyddai’n addas i wneud toriadau.”

Bydd cyllideb dau gartref gofal plant y Sir yn Llwynhendy a Blaenau yn cael ei ddiogelu, gan eu bod yn “gwneud gwasanaeth allweddol wrth roi seibiant i rieni sydd â phlant ag anableddau dwys a chymleth.” Bydd y ddau gartref yma nawr yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr arbedion posib.

Dywedodd y Cynghorydd y byddai cynlluniau i godi tâl ar yrrwyr â bathodynau glas yr anabl hefyd yn cael eu hatal am y tro, oherwydd yr adolygiad cenedlaethol i’r holl gynllun.

Cadarnhaodd Cadeirydd y Grŵp Llafur, y Cynghorydd Terry Davies, y byddai’r cynydd mewn pris prydau ysgol a drafodwyd, o £2 i £2.15, hefyd yn cael ei atal. Dywedodd Terry Davies fod teuluoedd “eisoes yn ei chael hi’n anodd i gadw dau ben llinyn ynghyd, a bod angen i blant barhau i gael pryd da o fwyd.”

Mae hi hefyd wedi dod i’r amlwg y bydd y penderfyniad i gau amgueddfeydd Parc Howard ac Abergwili yn gael eu gohirio am y tro, nes bod trafodaeth bellach yn cael ei gynnal gyda chyfeillion y sefydliadau.

‘Cynyddu, nid torri nôl

Ond dywedodd Rhodri Glyn Thomas, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr y dylid cynyddu, nid torri nôl ar gyllid mentrau iaith.

“Mae Cyngor Sir Gâr yn gwneud beth sy’n glasurol yn ystod cyfnod Meryl Gravell yn arweinydd, yn dweud eu bod yn mynd i dorri arian y Mentrau Iaith o 50% ac wedyn yn dweud mai dim ond 10%.

“A ddylai Cyngor Sir Gâr fod yn ystyried torri mewn unrhyw ffordd yr arian i’r Mentrau? Swm gymharol fach yw £50,000 i Fentrau Iaith sy’n gorfod chwilio am arian o’r tu allan i Sir Gâr ond mae unrhyw ostyngiad yn effeithio ar allu i dynnu arian o ffynonellau eraill.

“Mewn sefyllfa ieithyddol ac economaidd a newid demograffig enfawr ni ddylai’r Cyngor Sir dorri nôl ar Fentrau Iaith ond cynyddu’r arian iddyn nhw.

“Mae’r sir yn gweithredu fel gyda’r Amgueddfeydd yn bygwth torri ond yn dod nôl a rhywbeth gwell sy’n dacteg i dderbyn toriadau.

“Er eu bod yn ddyddiau anodd ar gyllideb y Cyngor sir, nid dyma’r maes ddylai fod yn cael toriadau ar hyn o  bryd.

“Oni ddylai’r swyddogion feddwl am rewi cyflogau uwch-swyddogion? Mae eraill, gan gynnwys Aelodau Cynulliad, eisoes wedi gorfod meddwl am wneud.

“Rwy’n siŵr y gellid darganfod £10,000 o wneud hynny. A byddai’n fwy buddiol na thorri ar waith y Mentrau Iaith. Rwy’n ofni eu bod yn cael eu gweld yn darged rhwydd ac mae’n dweud cryn dipyn am flaenoriaethau’r cyngor sir lle mae’r iaith Gymraeg a dyfodol cymunedau Cymraeg yn isel iawn lle mae Cyngor Sir Gâr yn gosod pethau.”