Adam Price
Mae’r ‘Mab Darogan’ i nifer ym Mhlaid Cymru wedi rhoi ei gefnogaeth i Leanne Wood yn ei hymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth y blaid.

Heddiw, fe gyhoeddodd cyn-AS Gorllewin Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, ei fod yn rhoi ei gefnogaeth tu ôl i ymgyrch Leanne Wood i fod yn arweinydd newydd Plaid Cymru.

Mae Leanne Wood, 40, yn un o’r pedwar sydd yn gobeithio cymryd yr awennau oddi wrth Ieuan Wyn Jones, sy’n bwriadu sefyll i lawr pan fydd yr arweinydd newydd wedi ei ethol, yn sgil canlyniadau siomedig fis Mai.

Ond mae Adam Price wedi dweud heddiw ei fod yn cefnogi ymgyrch Leanne Wood gan mai hi yw’r “ymgeisydd yn y sefyllfa gorau posib i fynd i’r afael â’r diffygion real yng ngwleidyddiaeth heddiw: y diffyg mewn swyddi a buddsoddiadau, y diffyg mewn gobaith ac uchelgais, y diffyg angerdd, egwyddor, a dyfalbarhad.”

‘Amser am newid’

“Mae hi’n amser am genhedlaeth newydd o arweinwyr, yng Nghymru a’r byd,” meddai Adam Price heddiw.

“Mae syniadau a sefydliadau’r 20fed Ganrif wedi’n methu ni. Yng Nghymru, maen nhw wedi’n gadael ni gyda gwaddol anobaith rhwng cenhedlaethau a ddylai wneud i ni fod yn flin, ond rydyn ni rhyw ffordd wedi dysgu ei dderbyn.

“Mae angen opswin arall arnon ni,” meddai.

“A dyna, i fi, yw dau brif gryfder Leanne: mae hi’n ddidwyll, beth welwch chi yw’r hyn y’ch chi’n ei gael – ac mae’n ddewis amgen i’r ceidwadaeth, gyda ‘c fach’, a welwch chi  yn y Gymru gyfoes.

“Yn greadigol yn ei meddwl ac yn gwbwl ymroddedig i gyfiawnder economaidd, Leanne yw popeth sy’n ddiffygiol yn yr hen arweinyddiaeth Lafur.”

Mae’r genedlaetholwraig pybyr a’r Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, Leanne Wood, yn dweud ei bod “wrth ei bodd” bod ei hymgyrch wedi denu cefnogaeth gwleidydd “hynod” ac un sy’n cael ei “edmygu gymaint” ag Adam Price.

Hefyd yn y ras am yr arweinyddiaeth mae AC Ceredigion, Elin Jones, AC Canol a Gorllewin Cymru, Simon Thomas, ac AC Dwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis Thomas.

Heddiw, fe gyhoeddodd AS Arfon Hywel Williams ei fod yn cefnogi ymgyrch Elin Jones am yr arweinyddiaeth.