Mae llefarydd ar ran gwasg Gomer wedi dweud wrth Golwg360 y bydd y cyhoeddwyr yn cael “gwefan newydd eleni ac yn dechrau cyhoeddi e-lyfrau” wrth i’r wasg ddathlu 120 o flynyddoedd.

“Yn fuan iawn, o fewn ychydig fisoedd, bydd ein gwefan newydd i fyny a bydd e-lyfrau arni,” meddai llefarydd ar ran Gomer wrth Golwg360.

“Mae Gomer eleni yn 120 oed felly, rydan ni eisiau trio gweu’r holl beth ynghyd.

“Fe fydd gennym ni feicro-sites i ddathlu’r pen blwydd. Wedyn, bydd y wefan newydd a’r e-lyfrau yn dod yn rhan o’r dathliad 120”.

Eisoes, mae cwmni cyhoeddi Y Lolfa wedi dweud eu bod yn “edrych ymlaen” at ehangu nifer yr e-lyfrau fydd ar gael ar gyfer Kindle yn ystod y misoedd nesaf.

Fe wnaeth Y Lolfa werthu bron i 100 o e-lyfrau dros y Nadolig, meddai Garmon Gruffudd wrth Golwg360. Roedd gan y Lolfa naw o e-lyfrau ar werth dros y Nadolig.

Mae’r cyhoeddwyr yn gobeithio “ychwanegu tua dwsin arall yn ystod y misoedd nesaf.”