Mae corff dyn ifanc wedi cael ei ddarganfod yn crogi ar dir ysgol gynradd ar Ynys Môn.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael gwybod am 8.30 bore heddiw fod corff wedi ei ddarganfod ar y safle. Aeth swyddogion draw yno gydag aelodau o Wasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru.

Maen nhw’n dweud ei fod yn ddyn yn ei ugeiniau cynnar oedd yn byw yn lleol.

Ar hyn o bryd mae’r heddlu’n fodlon nad oes unrhyw  amgylchiadau amheus ynglŷn â’r digwyddiad.

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Does dim mwy o wybodaeth am y digwyddiad ar hyn o bryd.