Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi penderfynu rhoi “buddsoddiad mawr iawn” i ddiwydiant cerddoriaeth Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’n cynnal ymgynghoriad ar gronfa ariannol newydd sef ‘Arian i Ddatblygu’r Diwydiant Cerddoriaeth’ ac yn croesawu sylwadau i’r ddogfen ddrafft.

Cronfa yw hi “mewn ymateb i dlodi’r gefnogaeth i fathau heblaw am opera a cherddorfeydd mawrion.” Mae’n cael ei ystyried yn newyddion da i gerddorion Cymraeg yn sgil gostyngiadau sylweddol sydd wedi bod yn nhaliadau PRS yn ddiweddar.

Nid yw’r Cyngor yn gallu dweud faint yn union fydd maint y gronfa nes iddo gyfarfod ar Chwefror 3.

“Dw i eisiau iddo fod mor uchel â phosib,” meddai Einion Dafydd, Uwch Swyddog Cerddoriaeth y Cyngor, wrth gylchgrawn Golwg. “Po fwyaf cadarnhaol fydd yr ymateb, uchaf yn y byd fydd o. Mae eisiau buddsoddiad mawr iawn.”

Pwy fydd yn elwa?

Yn ôl y ddogfen, y math o gerddorion a sefydliadau a fydd yn debygol o elwa ar yr arian fydd

  • cerddorion yng Nghymru gyda hanes cryf o gyflawni
  • mentrau sy’n buddsoddi mewn cerdd newydd o Gymru
  • y rhai sy’n creu neu gomisiynu cerddoriaeth wreiddiol a heriol
  • y rhai sydd am ddatblygu ffyrdd arloesol o hybu cerdd Cymru i gynulleidfaoedd
  • y rhai sy’n chwilio am ffyrdd i gymryd eu cerddoriaeth at gynulleidfa ryngwladol neu eu menter i farchnad felly
  • y rhai sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i’w galluogi i wneud bywoliaeth gynaliadwy o’u cerddoriaeth.

Gallwch ddarllen y ddogfen ymgynghorol ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru ac anfon eich sylwadau at ymateb@celfcymru.co.uk erbyn Ionawr 25.

Darllenwch y stori yn llawn yn rhifyn Golwg yr wythnos yma