Coed Gwent
Mae darn mawr o goedwig hynafol wedi ei adfer i’w gyflwr naturiol, chwe blynedd ar ôl apêl i godi £1.5m i’w brynu, meddai elusen Coed Cadw.

Mae chwe blynedd bellach wedi mynd heibio ers i’r ymddiriedolaeth brynu coedwig Coed Gwent yn Sir Fynwy, y goedwig hynafol fwyaf sydd ar ôl yn y wlad.

Cefnogwyd yr ymgyrch wreiddiol gan 15,000 o bobol, gan gynnwys enwogion fel Judi Dench a Bill Bryson.

Mae Coed Cadw bellach wedi cwblhau’r cam cyntaf wrth adfer y goedwig, sef torri i lawr y coed conwydd oedd wedi eu plannu yno dros y blynyddoedd er mwyn rhoi lle i’r coed brodorol derw, ffawydd a chyll dyfu.

Dywedodd Coed Cadw eu bod nhw wedi symud tua phumed ran o’r conwydd o’r goedwig 870 acr. Bydd y gwaith o symud y conwydd yn parhau yn y dyfodol.

Fe fydd y lle a’r golau ychwanegol yn caniatáu i goed brodorol dyfu, ac mae’r Ymddiriedolaeth hefyd – gyda help plant ysgol lleol – wedi bod yn plannu mes er mwyn cynyddu nifer y coed derw yn y goedwig.

“Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi symud cannoedd o filoedd o dunelli o goed conwydd, gan wella cynefin yr ystod eang o fywyd gwyllt sy’n byw yn y goedwig hynafol, gan gynnwys y pathew, coch y berllan, a’r mochyn daear, ymysg eraill,” meddai Barry Embling, sy’n gyfrifol am ofal Coed Gwent.

Dywedodd nad oedd y gwaith wedi bod yn hawdd, ac yn ogystal â chlirio coed bu’n rhaid gwario miloedd ar symud sbwriel.