Tanchwa eira oedd yn gyfrifol am farwolaeth dringwr ar un o fynyddoedd uchaf Eryri ddoe.

Yn ôl y tîm a fu’n ceisio’i achub, roedd ef a dwy wraig wedi cerdded ar silff o eira gan feddwl eu bod ar dir cad
Y Garn mewn tywydd braf (George Tod CCA 2.0)
arn.

Pan chwalodd yr eira o danyn nhw, fe gafodd y dyn ei ysgubo i lawr 500 troedfedd ar fynydd Y Garn, sydd dros 3,000 o droedfeddi ac yn un o gadwyn y Glyderau.

Dyw enw’r dyn ddim wedi ei gyhoeddi eto ond y gred yw ei fod yn ei 30au.

Yn ôl llefarydd ar ran Tîm Achub Mynydd Ogwen, roedd y dyn yn gwisgo’r offer cywir ac roedd wedi cwrdd â’r ddwy wraig ar y copa ac wedi trafod y ffordd orau i fynd i lawr.

“Mae’n arbennig o anffodus eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad hawdd ei wneud wrth gerdded ar yr hyn yr ydach chi’n feddwl sy’n gae mawr o eira, heb sylweddoli mai silff ydi hi,” meddai Chris Lloyd.

Fe gafodd un o’r merched ei dal gan y danchwa hefyd ond fe ataliwyd ei chwymp hi.