“Mae’r actio yn waith caled, anodd a’r oriau’n hir, er yn wych ar yr un pryd,” meddai Rhys Ifans am y profiad o ymddangos fel y dihiryn The Lizard yn y ffilm Spiderman newydd.

“Dw i ddim isho cwyno’n ormodol pan mae nyrsys, ffermwyr ac athrawon allan yno’n gweithio oriau maith. Ond mae’n bwysig bod pobl yn gwybod bod y gwaith yn uffernol o galed.

“Fel actor, rhaid i ti dderbyn cael dy wrthod drosodd a throsodd – a chofio bod y carped coch jest yn para munud. Dwi ddim yn nabod yr un actor sy’n mwynhau’r carped coch beth bynnag.”

Ond mae Rhys Ifans hefyd yn datgelu faint mae wedi mwynhau’r her o actio yn The Amazing Spiderman.

“Wnes i ddim cyffroi gormod pan ges i’r rhan i ddechrau, fe fyddai hynny wedi gwneud fi’n uffernol o nerfus. Ond wrth ffilmio, ti’n sylweddoli cymaint o fwystfil yw’r prosiect £160 miliwn yma. Dwi erioed wedi teimlo cweit fel hyn ar set o’r blaen – teimlo’r pwysau o orfod gwneud yn dda. Dwi’n gwybod bod y ffilm yn enfawr a bod rhaid imi fod ar fy ngorau.”

Mewn rhaglen ar S4C mae Rhys Ifans hefyd yn sôn am y profiad o actio yn ffilmiau Harry Potter, portreadu’r comedïwr Peter Cooke, actio gyda’i hen ffrind, Daniel Craig, yn y ffilm Enduring Love, gweithio gyda’i frawd Llŷr Evans yn y ffilm Twin Town, ac am y noson wnaeth e gwrdd â Shirley Bassey yn Cannes.

Mae’r rhaglen, Prosiect: Rhys Ifans, yn gyfres o gyfweliadau dadlennol rhwng yr holwr – y comediwr Daniel Glyn – a Rhys Ifans.

Mynd yn ôl i’r dechrau

Mae Rhys Ifans hefyd yn datgelu ei ddyled i’r diweddar ddiddanwr ac actor Gari Williams, pan benderfynodd yn wyth oed mai actor oedd e am fod.

“Ges i fynd i fyny i’r llwyfan o’r gynulleidfa mewn pantomeim yn Theatr Clwyd lle’r oedd Gari Williams yn serennu. Ges i deimlad anghyffredin, newydd, i fyny ar y llwyfan,  teimlad ’mod i isho bod yn ddewr a chamu allan o fyd cysurus plentyndod. Roedd o’n foment wna i ddim anghofio,” meddai Rhys Ifans.

‘Taw ar y swnian’

Mae Daniel Glyn wedi cyfweld â channoedd o bobl dros y blynyddoedd, ond mae’n dweud ei fod wastad wedi eisiau gwneud cyfweliad â Rhys Ifans.

“Wedi ugain mlynedd o swnian, o’r diwedd fe ildiodd y seren Hollywood a chytuno i siarad â fi,” meddai Daniel Glyn.

“Un peth sy’n dod yn amlwg wrth wylio’r rhaglen yw bod Rhys yn cymryd y grefft o actio, a gwneud pobol i chwerthin, o ddifri.  Mae’n dangos bod yn rhaid i chi aberthu lot o bethau i fod yn actor enwog ac mae’n gallu bod yn fywyd unig.

“Dw i’n gobeithio wrth wylio’r rhaglen y bydd gwylwyr yn sylweddoli bod Rhys yn bell o fod yn ‘ddyn gwyllt’ – chwedl y tabloids – a bod ei lwyddiant yn ysgogiad i unrhyw actor neu gomedïwr ifanc i weithio’n galed.”

Bydd Prosiect: Rhys Ifans ar S4C ar y trydydd o Ionawr.