Leanne Wood
Mae Leanne Wood wedi cyhoeddi ei bod hi’n bwriadu sefyll yn arweinydd Plaid Cymru.

Yr Aelod Cynulliad dros Canol De Cymru yw’r pedwerydd i gyhoeddi y bydd yn sefyll, ar ôl Elin Jones, Simon Thomas a Dafydd Elis-Thomas.

Mae Leanne Wood, sy’n Aelod Cynulliad ers 2003, wedi addo canolbwyntio ar yr economi er mwyn symud Cymru tuag at “wir annibyniaeth.”

Mae’r Aelod Cynulliad 40 oed yn dweud bod ei phrofiad “uniongyrchol o ddirwasgiad a’i effaith yn ystod y 1980au yn fy ngwneud yn benderfynol o sicrhau nad ydym yn colli cenhedlaeth arall eto i ddiweithdra ymysg yr ifanc.

“Mae mynd i’r afael â’r heriau economaidd hynny yn rhywbeth sy’n mynd law yn llaw gyda’n taith ni tuag at annibyniaeth,” meddai.

Annibyniaeth ar yr agenda

Mae’r Aelod Cynulliad hefyd yn hyderus y bydd dewis arweinydd newydd i’r blaid yn helpu yn y broses o ddarganfod cyfeiriad newydd i’r blaid.

“Mae gen i weledigaeth eglur ynghylch beth ddylai ein cyfeiriad fod yn y dyfodol; adeiladu’r achos dros wir annibyniaeth,” meddai.

“Ar hyd y blynyddoedd dydyn ni ddim wedi bod yn ddigon clir o ran beth yw annibyniaeth i ni, pam rydyn ni am ei sicrhau, na sut y byddem yn cyrraedd yno. Dyma’r amser i newid hynny.”

Cefnogaeth gynnar

Un o’r rhai sydd wedi datgan cefnogaeth cynnar i Leanne Wood yw Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards.

Mae e hefyd yn credu bod gan Leanne Wood gyfeiriad clir i’w roi i waith y blaid.

“Mewn gwleidyddiaeth modern yr arweinydd sydd yn diffinio plaid gwleidyddol mae’n cynrychioli ac heb os yn fy marn i un o brif sgiliau Leanne yw bod hi yn gyfathrebwraig arbennig o gryf,” meddai.

“Mae pobl yn ymddiried ynddi hi. Mae pobl yn gallu cael connection gyda hi a dw i’n credu y bydd hwnna yn rhoi ei harweinyddiaeth hi mewn sefyllfa da iawn, ac fe fyddai’n rhoi’r blaid mewn sefyllfa cryf iawn.”

Cyfle yn y Cymoedd

Mae Jonathan Edwards yn credu y byddai cael Leanne Wood wrth y llyw yn ymestyn apêl y blaid – sy’n ddatblygiad “angenrheidiol” os yw’r blaid am lywodraethu yng Nghymru yn y dyfodol.

“Os ydych chi yn edrych ar ddyfodol gwleidyddiaeth Cymru, maes y gad yn amlwg i ni fel plaid yw Cymoedd de Cymru. Mae’n rhaid i ni guro’r Blaid Lafur yn ei cadarnleoedd nhw os ydyn ni moen arwain ein gwlad ar ben ein hunain.

“Dw i’n credu yn Leanne,” meddai. “Mae’n dod o’r Rhondda, mae hi yn rhywun sydd yn symboleiddio’r ardaloedd hynny.

Bydd y cyfnod swyddogol i enwebu arweinydd newydd i Blaid Cymru yn dechrau ar 3 Ionawr 2012, ac yn cau ar 26 Ionawr. Bydd yr hystings cyntaf yn cael eu cynnal ym mis Chwefror.

Mae disgwyl y bydd arweinydd newydd Plaid Cymru wedi ei ddewis erbyn Cynhadledd Wanwyn y blaid ym mis Mawrth 2012.

Gellir darllen rhagor o gyfweliad Jonathan Edwards yn rhifyn Golwg yr wythnos hon